Wedi llwyddiant Llif Coch Awst (2017) a enillodd wobr categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2018, mae gan y Prifardd Hywel Griffiths gasgliad newydd o gerddi, a hynny ar drothwy dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed.
Y tro hwn, mae’r amgylchedd, yr argyfwng newid hinsawdd, a’n lle ni yn y byd yn themâu penodol, gyda’i gefndir academaidd yn y maes daearyddol yn ysbrydoliaeth amlwg i’r bardd.
Ond mae hefyd yn cyfuno hynny gyda phrofiadau personol o deulu, cenedlgarwch a threigl amser.
Mae teitl y gyfrol wedi’i ysbrydoli gan gyfnod arall pan oedd pobl yn cwestiynu eu lle yn y byd, a pha fath o fyd yr oedden nhw ei eisiau.
‘O dan gerrig y pafin, y traeth’ oedd un o sloganau mwyaf poblogaidd protestiadau 1968 ym Mharis; galwad obeithiol am ddychmygu bywyd a chymdeithas well, am ganfod cyffro a rhyddid rhag strwythurau caeth y byd.
Yn Y Traeth o Dan y Stryd mae Hywel yn gofyn ble, a sut, y gall bardd ar drothwy deugain oed ganfod y traeth heddiw, yng nghanol prysurdeb cyfrifoldebau bywyd a stormydd gwleidyddol, a phan fo newid hinsawdd yn bygwth traethau a strydoedd yng Nghymru a thu hwnt? Mae’n chwilio yn y dirwedd, yn yr amgylchedd, yn y cof ac yng nghariad teulu a ffrindiau, ac yn dod o hyd iddo, weithiau.
Daw Hywel yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac mae bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae’n Ddarllenydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ef oedd enillydd coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008, a chadair Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015.
Cynhelir noson yng nghwmni dau ffrind: Eurig Salisbury yn holi’r Prifardd Hywel Griffith i ddathlu cyhoeddi ei gyrfol newydd yn Bank Vault, Aberystwyth ar nos Lun, 27 Mawrth, am 7.30yh