Mae enillydd Llyfr y Flwyddyn gyda tu ôl i’r awyr wedi ysgrifennu nofel feiddgar arall, y tro yma i’r arddegau cynnar. Mae Astronot yn yr Atig (Y Lolfa) gan Megan Angharad Hunter yn nofel arbrofol, lawn antur ar gyfer plant 8 i 12 oed.
Mae’r nofel yn torri cwys newydd gyda’i harddull anffurfiol a’i llunwedd amrywiol. Defnyddir paragraffau byr, pwntiau bwled, ffeithiau, geiriau ar linellau unigol a dwdls er mwyn cyfleu emosiynau a phroses feddyliol y prif gymeriad, Rosie Alaw, sy’n 11 oed. Nod y llyfr yw datblygu empathi, gwydnwch a lles emosiynol.
Meddai Megan: “Dwi ddim yn siŵr o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, ond y teitl ddaeth yn gyntaf ac wedyn dechreuodd y stori a’r cymeriadau dyfu. Mae’n nofel wyddonias sy’n teithio i bellafion y bydysawd, ond stori am gyfeillgarwch a dysgu bod cryfder mewn gwahaniaeth ydi hi mewn gwirionedd. Mi wnes i wir fwynhau’r broses o ‘sgwennu’r nofel hon, felly gobeithio’n wir fydd plant (ac oedolion!) Cymru yn ei mwynhau hefyd.
“Mae’r stori hon yn un eithaf personol a dwi’n meddwl y byddwn i wedi gwerthfawrogi stori o’r fath pan o’n i yn yr ysgol gynradd. Felly, dwi’n cyflwyno’r nofel i unrhyw un sydd erioed wedi teimlo fel nad ydyn nhw’n perthyn, ac yn gobeithio y bydd yn gwneud i rai darllenwyr deimlo’n llai unig yn ogystal â mynd â nhw ar antur llawn hwyl drwy’r gofod!”
Mae’r stori yn dilyn Rosie Alaw, sy’n dod ar draws llong ofod ar ei ffordd adre o’r ysgol. Mae hi’n methu credu ei lwc, oherwydd mae hi wedi gwirioni ar seryddiaeth - y sêr, y planedau, a’r gofod. Pan mae Astronot a Ffred yn gofyn am help Rosie, mae hi’n mynd ar daith arallfydol anhygoel, yn ogystal â thaith bersonol i ddarganfod hi ei hun. Mae’n rhaid iddi felly fod yn ddewr a goresgyn nifer o broblemau.
Mae Astronot yn yr Atig yn nofel annwyl am bwysigrwydd teulu a ffrindiau ac am dyfu i fyny mewn byd heriol.
Mae Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).