ERS mis Mai mae grŵp wedi ymgynnull yn wythnosol i chwarae’r gêm fwyaf poblogaidd yn y byd – pêl-droed.

Mae’r bêl gron wedi cipio calonnau’r grŵp i ferched a phobl anneuaidd (non-binary) gyda niferoedd cyson o chwaraewyr brwd yn mynychu bob wythnos.

Sefydlodd Toby a Siân tîm Mellt a Tharanau Machynlleth ar ôl sgwrs anffurfiol a ddechreuon nhw gyda’i sesiwn gyntaf nôl ym mis Mai 2024.

Wrth nesáu at ddiwedd y flwyddyn, mae’r tîm yn mynd o nerth i nerth, gydag aelodau newydd yn dal i ymuno.

“Mae cychwyn y tîm yma wedi bod yn un o’r pethau dwi mwyaf balch ohono. Mae cael grŵp o bobl sydd mor groesawgar, cyfeillgar a chefnogol yn anhygoel i fod yn rhan ohono,” meddai Siân, un o sylfaenwyr y fenter.

“Ymarfer pêl-droed yw uchafbwynt yr wythnos i mi, ac i gymaint ohonom ni sydd ar y tîm.”

Y tîm yn mwynhau eu sesiwn tu allan
Y tîm yn mwynhau eu sesiwn tu allan (Llun wedi'i gyflenwi)

Gyda bron i 50 yn y sgwad a’r grŵp WhatsApp, mae’r tîm nawr yn trio sefydlu dwy sesiwn yr wythnos, un tu allan yn Bow Street ac un tu mewn ym Machynlleth, gan fod gymaint gyda diddordeb yn y mudiad llewyrchus lleol.

Gyda dull unigryw o gynhesu ar ddechrau’r sesiwn, orennau hanner amser, gêm cyffrous llawn chwerthin ac hunlun i orffen, mae tîm Mellt a Tharanau Machynlleth llawn hwyl, cymeriadau lliwgar ac ymdeimlad croesawgar a chynhwysol.

Mae’n le da i ymarfer eich Cymraeg os yn ddysgwr, gan fod llawer o’r tîm yn siarad yr iaith. Mae adborth yn bwysig i’r trefnwyr, ac maent wastad yn gofyn be’ mae’r mynychwyr eisiau allan o’r sesiynau.

Chwarae pêl-droed eto yn fy ngwneud i mor hapus

Mae amrywiol oedrannau’n chwarae i’r clwb bach, gydag unigolion hyd at 50+ oed yn ymuno yn yr hwyl.

Hefyd, mae amrywiaeth yn lefel y sgiliau a’r profiad o fewn y tîm, gydag ambell un heb chwarae pêl-droed o’r blaen neu heb wneud ers eu dyddiau yn yr ysgol.

Dywedodd Kit: “Ro’n i’n chwarae llawer o bêl-droed pan o’n i’n blentyn – bron bob amser cinio yn yr ysgol gynradd, efo’r bechgyn (ac un ferch arall).

“Wnes i stopio yn yr ysgol uwchradd achos doedd y bechgyn ddim isio i fi chwarae efo nhw.

“Dw i ddim wedi gwneud unrhyw chwaraeon yn y 25 mlynedd ers hynny.

“Mae chwarae pêl-droed eto yn fy ngwneud i mor hapus – mae’n gymaint o hwyl, da’ ni’n chwerthin lot ac mae fy nghorff yn caru symud mwy.”

Sesiwn ar y traeth
Sesiwn ar y traeth (Llun wedi'i gyflenwi)

Dywedodd Judith o Fachynlleth: “Dwi wedi dechrau chwarae pêl-droed efo’r tîm yn yr haf, ac oedd hi’n bron 40 mlynedd ers y tro diwetha’ wnes i chwarae!

“Doedd na ddim opsiwn rili i chwarae mewn tîm pan o’n i’n ifanc, dim ond weithiau yn y maes chwarae yn yr ysgol gynradd efo’r bechgyn.

“Mae ein grŵp yn gyfeillgar iawn, mae pawb yn groesawgar. Mae’r vibe yn y tîm yn rili neis, lot o chwerthin, lot o hwyl a lot ohonon ni heb lot o brofiad chwarae o’r blaen.

“Dwi’n falch iawn bod ni’n dal i chwarae’r drwy’r gaeaf, a dwi’n edrych ymlaen at nos Fercher bob wythnos!”

Yn wych ar gyfer fy lles corfforol a meddyliol

“Dwi wedi bod yn aros blynyddoedd am gyfle i chwarae yma yn fy ardal enedigol. Rhwng rhedeg o gwmpas a chwerthin, mae pêl-droed gyda’r grŵp hyfryd hwn o bobl yn wych ar gyfer fy lles corfforol a meddyliol,” meddai Amy.

Nôl ym mis Mehefin cafodd y tîm un o’i sesiynau ar y traeth ger Ynyslas, gyda’r gwynt y gelyn mwyaf, cawson nhw hwyl wrth droedio’r tywod, a gorffennwyd y sesiwn gydag ambell un yn heidio i’r môr am dip.

Cafodd y grŵp siawns chwarae mewn awyrgylch cystadleuol dros yr haf, wrth iddynt gymryd rhan mewn twrnamaint pêl-droed 5 bob ochr ym Machynlleth, digwyddiad er budd cronfa carnifal y dref.

Roedd hyn yn gyfle gwych i’r rhai nad oedd wedi profi chwarae pêl-droed mewn sefyllfa fel hyn.

Y tîm yn ei chanol hi yn ystod gêm yn nhwrnamaint carnifal Machynlleth
Y tîm yn ei chanol hi yn ystod gêm yn nhwrnamaint carnifal Machynlleth (Llun wedi'i gyflenwi)

Roedd hyn hefyd yn siawns da i’r gymuned ddod i’w hadnabod, ac i godi eu hyder wrth chwarae o flaen eraill.

Roedd y cyfle i chwarae ar y lefel hon wedi rhoi help llaw i’r tîm weld beth sydd angen ei wella ac i brofi safon uwch o bêl-droed.

Oherwydd diffyg golau dydd a’r tywydd yn dirywio dros y gaeaf, mae hi wedi bod yn anodd cadw’r sesiynau i fynd.

Felly aeth y grŵp ati i addasu gan symud dros dro i gae bob tywydd 5 ochr ar safle glwb bêl-droed Bow Street, gan mai hwnnw oedd y man chwarae awyr agored gyda chae artiffisial a goleuadau agosaf i Fachynlleth gydag argaeledd.

Gyda llawer yn ymuno â’r sesiynau, penderfynodd y tîm drefnu dwy sesiwn yr wythnos, un tu allan ac un tu mewn.

Diffyg cyfleusterau

Mae’n anodd sefydlu rhywbeth fel tîm chwaraeon unrhyw le yng nghanol Cymru wledig, gyda diffyg cyfleusterau yn enwedig dros fisoedd tywyll y gaeaf.

Chwith, un o seflies creadigol y tîm; dde, lleoliadau’r canolfannau hamdden dan fygythiad ym Mhowys
Chwith, un o seflies creadigol y tîm; dde, lleoliadau’r canolfannau hamdden dan fygythiad ym Mhowys (lluniau wedi'u cyflenwi)

Wrth gwrs mae’r ganolfan hamdden yno, ond mae’n rhaid symud tu mewn, ac i lawer apêl gêm y bêl gron yw bod allan yn yr awyr iach, beth bynnag y tywydd.

Heb gae bob tywydd addas yn lleol, mae’n codi’r cwestiwn ‘pam?’

Mae’n siŵr bod tref hanesyddol a phwysig fel Machynlleth yn haeddu cyfleusterau hamdden i’w phobl leol.

A chyda’r bygythiad o gau canolfannau hamdden Freedom Leisure drwy sir Powys, mae’n poeni llawer na fydd unman i fynd ar gyfer gweithgareddau hamdden a chymdeithasol.

Hefyd, mae’r Llywodraeth yn annog byw yn fwy cynaliadwy – ond gyda llawer yn gorfod teithio’n bell am fwyd, siopa, gwaith, gwasanaethau iechyd a gweithgareddau hamdden, mae byw yn fwy gwyrdd yn anodd pan nad yw’r rhwydwaith yn bodoli.

Mae pêl-droed yn cael ei hadnabod fel iaith fyd-eang.

Mewn byd sy’n mynd yn fwy pegynol, mae’n bwysig i bawb gallu cael mynediad i rywbeth sy’n dod â boddhad a positifrwydd.

Onid yw hi’n bwysig gallu cael yr un cyfleusterau a chyfleoedd yng nghefn gwlad Cymru a rheini sy’n yn byw yn ein dinasoedd a’n trefi mawr?

Felly, be’ sydd nesaf i glybiau gwledig fel Mellt a Tharanau?

A fydd yr hwb o weld bandiau braich LHDTC+ yn cael eu gwisgo ar y cae gan sêr mwyaf pêl-droed yn ddigon i hybu hyder rheini yn ein cymunedau gwledig i ofyn am adnoddau gwell?

A fydd gweld pêl-droed merched Cymru yn ennill lle yn Ewros 2025 am y tro cyntaf yn ddigon i sefydliadau a phobol leol ofyn am well gyfleusterau ar gyfer merched a menywod i ymarfer ynddo a defnyddio ei talentau i geisio cyrraedd y brig?

Er gwaethaf yr anawsterau mae ein clybiau bach gwledig yn eu hwynebu, mae pawb sy’n mynychu’r rhain yn gallu cadarnhau mai’r hwyl, y cyfeillgarwch a’r cwmni sydd mwyaf pwysig iddyn nhw.