BYDD Canolfan Arad Goch yn atseinio gyda cherddoriaeth gan Tara Bandito a Dadleoli ar nos Wener, 15 Mawrth wrth i bobl ifanc yr ardal gael cyfle prin i ddod i gig sydd ar eu cyfer nhw yn benodol fel rhan o Wyl Agor Drysau.
Mae’r holl gig, o ddewis a chysylltu â’r bandiau i hyrwyddo a dylunio posteri wedi ei drefnu gan aelodau aelwyd Urdd newydd Aelwyd Trefechan.
Daeth y cyfle i drefnu’r gig trwy gynnig gan Wyl Agor Drysau ac Arad Goch oedd wedi cael arian i helpu i dalu am artistiaid, a neidiodd yr aelodau ar y cyfle i fod yn rhan ohono.
Dros y mis diwethaf mae aelodau’r aelwyd wedi bod yn pleidleisio ar artistiad, cysylltu gyda bandiau a dylunio’r posteri ar gyfer y gig sy’n dechrau am 7.30yh.
Mae pawb nawr yn brysur yn hyrwyddo a gwerthu tocynnau gan obeithio denu cynulleidfa dda i’r ddau fand sydd wedi enill gwobrau diweddar yng Ngwobrau Selar.
Mae’r gig yn un di-alcohol ac wedi ei anelu at bobl ifanc oedran uwchradd yn bennaf.
Gallwch brynu tocyn am £5 y person drwy: neges breifat i Instagram @aelwydtrefechan; ebost at [email protected] aelodau Aelwyd Trefechan yn yr ysgol neu drwy gysylltu ag Arad Goch.