MAE nofel gyntaf yr awdur a’r athro Pryderi Gwyn Jones i oedolion yn plethu realiti a ffantasi i’r eithaf, ac yn tyrchu i hanes Cymru wrth wneud hynny.

Mae Hei Fidel! yn dilyn Jones, athro canol oed cyffredin sy’n dipyn o freuddwydiwr, wrth iddo gael ei dynnu i mewn i gynllun uchelgeisiol i dalu’r pwyth yn ôl i ddinas Lerpwl am greu Llyn Celyn.

Medd yr awdur: “Mae’n debyg mai dysgu hanes boddi Capel Celyn ac arwyddocâd graffiti ‘Cofiwch Dryweryn’ i’r digyblion dwi’n eu dysgu sydd wrth wraidd y nofel hon.

“Arweiniodd hynny at dyrchu i’r hanes hwnnw, a’r canlyniad oedd dod at y syniad o ddial ar ddinas Lerpwl am ei chamweddau, er gwaethaf yr ymddiheuriad flynyddoedd maith yn ddiweddarach.”

Mae’r nofel, a gafodd ganmoliaeth uchel gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2022, yn neidio’n ôl a ’mlaen rhwng gorffennol gwych Jones a’r presennol, sy’n anodd iddo ar brydiau.

Dyn teulu ydy Jones, gŵr a thad annwyl ac athro bach prysur.

Mae’n gwneud ei orau i helpu ei wraig a’i blant ac i gadw at y drefn ond mae rhan ohono, wrth feddwl am Gymru, yn crefu am wrthryfela, am wneud aberth dros ei wlad fel y gwnaeth ei holl arwyr o’i flaen.

Pan gaiff Jones chydig o lonydd, mae’n meithrin perthynas ryfeddol gyda mawrion y genedl – cymeriadau hollbwysig yn hanes a chwedloniaeth ein gwlad, yn cynnwys Aneirin, Taliesin, Bendigeidfran, Ceridwen y wrach, Owain Glyndŵr, William Williams Pantycelyn, Mari Fawr Trelech a Iolo Morganwg.

Yn ogystal â’r mawrion o Gymry daw Jones hefyd yn ffrindiau â phobl fyd-enwog megis Che Guevara, Bob Marley, Einstein ac Oppenheimer ... heb anghofio’r arch-chwyldroadwr, Fidel Castro.

“Mae ’na dri byd yn y nofel,” eglura’r awdur, “y gorffennol gwych, y presennol prysur a’r gwrthryfela arwrol. Dyma sy’n gyrru’r nofel yn ei blaen ar ras wyllt.”

Meddai Emyr Llywelyn: “Dyma awdur sy’n sicr yn seren lachar a chyffrous yn ffurfafen y nofel Gymraeg.

“Llais beiddgar a gwahanol sydd yn torri tir newydd fel y gwnaeth Mihangel Morgan a Daniel Davies.”

Ganed Pryderi Gwyn Jones yn Aberystwyth, a chafodd ei fagu yn Llansannan, Dyffryn Clwyd, ac ym Mangor.

Wedi cyfnod o deithio gwledydd Ewrop a De America symudodd i’r canolbarth.

Mae’n athro ysgol ers blynyddoedd, yn hoff o siarad am bêl-droed ac yn mynd i focsio i Gorris Uchaf bob wythnos.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr i blant: Brenin y Trenyrs(2020), Kaiser y Trenyrs (2021) a Tywysog y Trenyrs (2021).