FEL mudiad sy’n angerddol am roi’r Gymraeg i blant Cymru mae Mudiad Meithrin yn gwahodd pobl i lansiad swyddogol Sianel Dewin a Doti am 11.30, fore Mawrth 28ain Mai ar stondin y mudiad ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni.

Mae Dewin a Doti eisoes yn cael eu hadnabod fel cymeriadau hoffus Mudiad Meithrin a byddant yn rhan greiddiol o gynnwys Sianel Dewin a Doti (https://www.youtube.com/@dewinadoti).

Daeth y sianel i fodolaeth ar YouTube ddechrau Mawrth eleni gan greu bwrlwm a chyffro wrth i blant o Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd gael cyfle i serennu ar fideos sy’n rhan o’r sianel newydd hon.

Gwnaethpwyd y prosiect yma’n bosib trwy grant o i £497,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd wedi galluogi’r Mudiad benodi tri aelod o staff fydd yn gyfrifol am gynllunio, hyrwyddo a chreu llyfrgell o tua 120 o fideos wedi’u hanelu at blant bach a’u teuluoedd dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r tîm o dri aelod o staff sydd wedi cychwyn yn eu swyddi ers mis Ionawr eleni yn cynnwys:

· Fflur Dafydd (Arweinydd Prosiect Digidol),

· Rhodri Williams (Uwch Swyddog Ffilmio a Golygu)

· Gwenno Haf Jones (Swyddog Marchnata Digidol).

Meddai Fflur: “Dwi’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Mae cymaint o gefnogaeth a chynnwrf o fewn y mudiad am y prosiect mae’n fraint cael bod yn rhan ohono.

“Ers inni gychwyn ry’n ni wedi bod yn gweithio â chymunedau lleol y Mudiad ledled Cymru i gynhyrchu cynnwys fydd yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith gan ddod â’r Gymraeg i gartrefi plant bach a’u teuluoedd.”

Ers i’r Sianel ddod yn fyw ar YouTube mae 14 fideo wedi eu llwyfannu ar y sianel a thros 60,000 o ‘views’ i’r cynnwys.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Mae’n wych gweld y cynnwrf mae’r sianel wedi ei greu ar lawr gwlad gyda nifer o Gylchoedd Meithrin ac ysgolion cynradd yn nodi ei fod yn adnodd gwerthfawr iawn i ddod â’r Gymraeg yn fyw i deuluoedd.

“Ers i’r tîm gael ei sefydlu maen nhw wedi ffilmio mewn dwy feithrinfa ddydd, 5 Cylch Meithrin ac wedi creu cyfres o fideos efo ffrind newydd Dewin sef Cochyn masgot tîm rygbi’r Scarlets!”

Dywedodd Rob Roffe, Pennaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin: "Llongyfarchiadau i Mudiad Meithrin ar lansio Sianel Dewin a Doti.

“Mae’n braf iawn gweld y gwaith creadigol rydych chi'n ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg i blant ifanc a'u teuluoedd gyda'r fideos newydd hyn.

“Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU sy'n dosbarthu mwy na £30 miliwn yr wythnos. Mae grantiau yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."