GALLl y rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth bellach ddod o hyd i bob gig Cymraeg sy'n digwydd ledled Cymru mewn un lle, diolch i blatfform ar-lein newydd arloesol: Awni.

Mewn pryd i ddathlu 10 mlynedd o Ddydd Miwsig Cymru, mae Awni yn dod â holl ddigwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg at ei gilydd ar wefan hawdd ei defnyddio gyda map rhyngweithiol.

P'un a ydych yn chwilio am gigs agos neu wyliau mawr, gallwch ddod o hyd iddyn nhw i gyd wrth glicio botwm.

Wedi'i greu gan y tîm brawd a chwaer Jona a Martha Owen, mae Awni yn helpu i sicrhau nad yw cefnogwyr cerddoriaeth byth yn colli allan ar ddigwyddiadau gwych sy'n digwydd yn agos atynt.

Meddai Martha: "Fel cefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg, roedden ni'n clywed ein hunain yn dweud 'doeddwn i ddim yn gwybod am y gig yna!' yn rhy aml.

“Gyda channoedd o gigs yn cael eu cynnal bob blwyddyn, nod 'Awni?' yw sicrhau nad oes unrhyw gig yn dod o dan y radar.

"Trwy gyflwyno gigs i'n map, gall trefnwyr, lleoliadau ac artistiaid hybu gwerthiant tocynnau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein gwefan yn help llaw - gan gefnogi y sîn gerddoriaeth Gymraeg gyffrous a chryfhau presenoldeb y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt trwy gerddoriaeth fyw."

Mae prosiect Awni wedi derbyn cyllid drwy Sain fel rhan o'u Cronfa Her ARFOR, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu mentrau strategol i gryfhau'r economi o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Fel rhan o'r gronfa hon, mae label recordio Sain, hefyd wedi digido eu catalog cyfan o dros 20,000 o ganeuon - ochr yn ochr ag un o bartneriaid y prosiect, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn bwriadu dod â degawdau o dreftadaeth gerddorol Gymreig i gynulleidfaoedd newydd.

Mae Sain yn dathlu Dydd Miwsig Cymru drwy ryddhau ei gasgliad cyfan o'r 1970au o'r archif hon ar lwyfannau ffrydio fel Spotify ac Apple Music.

Yn cael ei ystyried yn eang fel 'cyfnod aur' y label, gan gynnwys albymau eiconig gan artistiaid fel Meic Stevens, Brân a Delwyn Siôn, hwn fydd y tro cyntaf i lawer o'r caneuon hyn fod ar gael yn ddigidol.

I ddod o hyd i'ch gig Cymraeg nesaf, ewch i https://awni.cymru/