MAE llyfrau Deg Diwrnod Diddorol y De yn adrodd straeon dros 40 o safleoedd hanesyddol.

Mae llyfrau tebyg eisoes ar gael ar safleoedd yn y gogledd, gyda'r lansiad yn ymestyn llyfrau dysgu Cymraeg Cadw i'r de.

Mae'r llyfrau ar gyfer y de yn cyflwyno diwylliant a hanes safleoedd treftadaeth Cadw, o Dyddewi i Gas-gwent, ac o'r Gŵyr i'r Fenni, gan gynnig cyfle i ymarfer geirfa a gramadeg Cymraeg trwy ysgogiadau ar gyfer sgwrs a chwisiau.

Mae pedwar llyfr, pob un wedi'i deilwra ar gyfer lefel benodol o'r cyrsiau Dysgu Cymraeg cenedlaethol sy'n caniatáu i grwpiau ar bob lefel gymryd rhan.

Gellir eu defnyddio ar safleoedd Cadw, mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn dysgu ar-lein. Maent wedi cael eu defnyddio gan ddysgwyr Cymraeg ledled y byd, mor bell i ffwrdd ag Awstralia.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: “Mae Deg Diwrnod Diddorol Cadw yn gyfle gwych i ddysgu Cymraeg wrth grwydro ein safleoedd hanesyddol anhygoel.

“Rwy'n falch o weld bod yr adnoddau hyn bellach ar gael fel y gall mwy o bobl ddysgu Cymraeg wrth ymweld â'u safleoedd Cadw lleol neu ddarganfod atyniadau ledled y wlad.”

Dywedodd Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned fel rhan o'n nod i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae Deg Diwrnod Diddorol yn gyfle gwych i ddefnyddio Cymraeg ac i ddysgu am ein safleoedd Cadw bendigedig.”

Mae Deg Diwrnod Diddorol yn defnyddio codau QR i gysylltu llyfryn â gweithgareddau ar-lein, sy’n arwain defnyddwyr drwy ddiwrnod o hanes, cwisiau, straeon a diwylliant, a’r cyfan yn rhai o leoliadau hanesyddol mwyaf trawiadol y gogledd a de.

Mae gan bob diwrnod bwyntiau gramadegol penodol a gaiff eu hymarfer, sy’n deillio’n uniongyrchol o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg, a fydd yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth newydd o’r ardal yr ydych yn ymweld â hi, ac adolygu’r iaith yr ydych yn ei dysgu hefyd.