BYDD Mentrau Iaith Cymru’n annog busnesau lleol i ymuno â chynllun ‘Hapus i Siarad’ wrth i’r mudiad cenedlaethol arwain dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae 2024 ar 15 Hydref a hynny mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Wedi cynllun peilot llwyddiannus yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam yn gynharach eleni, bydd busnesau trwy Gymru gyfan bellach yn cael cyfle i ymuno â’r cynllun ac arddangos poster sy’n dangos eu bod yn ‘hapus i siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid.

Meddai Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru: “Mae MIC yn hynod falch o gymryd yr awenau eleni ac arwain dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae wedi gwaith gwych gan fudiadau Dathlu’r Gymraeg ers dros ddegawd.

“A gan fod busnesau bach yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau, lle gwell i ddathlu’r Gymraeg nag yng nghalon y gymdeithas leol?

“Gan ddefnyddio ein rhwydwaith o 22 Menter Iaith drwy Gymru gyfan, down o hyd i fusnesau bach sy’n ‘Hapus i Siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid gyda’r ymgyrch yn cael ei lansio ar 15 Hydref i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae.”

Bydd busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, yn derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder.

Mae croeso i berchnogion busnes gysylltu â’u Menter Iaith leol neu Fentrau Iaith Cymru am fanylion pellach.

Yn ogystal ag annog busnesau bach i ymuno yn y dathliadau, mae Mentrau Iaith Cymru yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i fynd ati i drefnu digwyddiadau i nodi Diwrnod Shwmae Su’mae.

Darperir pecynnau digidol llawn syniadau, posteri a chyngor am sut i gael hwyl wrth siarad Cymraeg boed hynny yn yr ysgol, yn y gwaith, yn y cartref neu gyda ffrindiau. Bydd y pecynnau ar gael i’w rhannu yn nes at yr amser.  (shwmae.cymru)

Bydd modd i bawb sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch rannu profiadau a lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashtag #SHWMAESUMAE24 neu drwy dagio @ShwmaeSumae ar Facebook ac X neu @diwrnodshwmaesumae ar Instagram.