MAE un o sylfaenwyr y canu ‘pop’ Cymraeg newydd ddathlu’i bedwar ugain.

Yr arloeswr hwnnw, wrth gwrs, yw Edward Morus Jones ac eleni hefyd mae’n cyhoeddi ei hunangofiant.

Dyma sut mae Dafydd Iwan yn cofio recordio’i record gyntaf i gwmni Teldisc gydag Edward yn y 1960au: “Nid anghofiaf fi byth y sesiwn recordio cyntaf hwnnw, yng Nghlwb Cymdeithasol Crynant yng Nghwm Dulais, y cwm sy’n rhedeg yn gyfochrog â Chwm Nedd.

“Bore Sul oedd hi, a gwirfoddolwyr y clwb yn golchi gwydrau’r noson gynt am y pared â ni.

“Roedd yn brofiad cwbl newydd i’r ddau ohonom, a safem o flaen un meicroffon a pheiriant recordio Ferrograph, a ffwrdd â ni!

“Doedd Jo Jones (a weithiai i Teldisc ar y pryd, cyn gadael i sefydlu cwmni Cambrian) ddim yn poeni rhyw lawer am safon y canu, ond swniai yn fodlon iawn wedi inni recordio 4 cân ar gyfer EP.

“Gan i’r gwaith gael ei wneud mor gyflym, ‘O’s rhagor o ganeuon gyda chi?’ oedd cwestiwn Jo, ‘wa’th inni neud EP arall tra bo’ ni ’ma.’

“Wedi meddwl am sbel, daeth Edward a minnau i’r casgliad fod tair cân arall yn barod, ond methwyd â chael hyd i eiriau Cymraeg Edward i glasur Woody Guthrie, ‘This Land is My Land’, felly doedd dim amdani ond cyfansoddi penillion i honno’n y fan a’r lle.

“A’r fersiwn a glywir ar yr EP honno oedd y tro cyntaf i Edward a minnau ei chanu, er i gannoedd o berfformiadau ddilyn wedyn.’

Cofleidiodd Edward ei wlad yn ei ganu ac mae’r hunangofiant yn creu darlun o un oedd yn caru pob cwr o Gymru.

Cawn ddarlun o’i fagwraeth yn Llanuwchllyn a’r addysg bellach yn Ysgol Ramadeg y Bala. Bu’n gweithio i Farmers Marts cyn mynd am y Coleg Normal ac yna’n athro yng Nghaerdydd a Thon-teg.

Daeth yn ôl i Lanuwchllyn cyn symud i Landegfan, Môn. Ym mhob man, bu’i gyfraniad i weithgareddau’r Urdd ac i ddatblygu cyrsiau i ddysgwyr Cymraeg yn ddiarhebol.

Mae’i stori yn mynd â ni y tu hwnt i ffiniau Cymru yn ogystal. Dechreuodd ymwneud â gwaith Undeb y Cymry ar Wasgar ym 1983 a bu’n allweddol wrth lwyddo i ddiweddaru a bywiogi’r ddarpariaeth ar gyfer Cymry sy’n dychwelyd i’r Brifwyl o bedwar ban byd.

Yn ei dro, ymwelodd yntau â chymdeithasau Cymraeg dramor a chawn flas ar eu dathliadau yn y gyfrol. Gwirfoddolodd hefyd i wneud gwaith dyngarol yn Israel a Phalesteina.

Wrth gau pen y mwdwl, mae’n naturiol ei fod yn cloi gyda’i gyffro wrth weld cenedlaethau iau ei deulu yn ysgwyddo cyfrifoldebau ac yn disgleirio. Hunangofiant annwyl a gobeithiol gan un sydd â straeon da i’w rhannu.