MAE Fflach Cymunedol a Cered yn cyflwyno y bandiau Bwca, Lafant, Chwaer ac O.P Edwards, gyda chefnogaeth gan Dydd Miwsig Cymru a'r Seler.
Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad blynyddol o'r holl gerddoriaeth anhygoel sydd i'w gael yng Nghymru.
Mae'n gyfle i ddathlu'r gorau o'n bandiau lleol yn y Seler yn Aberteifi nos Wener, 7 Chwefror yn dechrau am 7yh.
Ers recordio cyfres o senglau cynnar yn Stiwdio Fflach ar ddiwedd 2017 mae Bwca bellach yn bedwarawd o Aberystwyth, Caerfyrddin, Pontyberem ac Abergwaun sydd wedi ryddhau dau albwm a pherfformio ledled Cymru.
Yn canu am y da a’r drwg o fywyd yn y gorllewin mae’r band yn llawn caneuon bachog a llawn amrywiaeth sydd yn atgoffa rhywun bob hyn a hyn o gerddoriaeth y ddau frawd hynny oedd yn dod i fusnesan ar bwy oedd yn recordio yn eu stiwdio rhai blynyddoedd ynghynt.
Yn ogystal â'r bandiau gwych, bydd y rhaglen Heno hefyd yn dod i ymweld â’r Seler i siarad am yr ymgyrch i godi £50,000 ac am y gigs misol yn y lleoliad.
Mae’r drysau'n agor am 7yh, tocynnau £7 ar y drws.
Mae’r ffenest buddsoddi yn Fflach Cymunedol yn cau ar 17 Chwefror.
Cliciwch yma.