MAE oriau gwylio S4C ar lwyfannau digidol S4C Clic neu ar iPlayer wedi cynyddu o bron draean mewn blwyddyn.

Yn ei Adroddiad Blynyddol 2023-24 mae S4C yn nodi cynnydd o 31% o oriau gwylio ar-alw ers y flwyddyn gynt – y ffigwr gorau yn hanes y darlledwr.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn nodi twf o 53% yn nifer yr oriau gwylio ar YouTube, sy’n greiddiol i’w nod o dyfu a chynnal y gynulleidfa iau. Daw hyn yn sgil ymroddiad “Darparu dy gynnwys di ar dy lwyfan di” sy’n rhan o strategaeth S4C.

Tra bod yr adroddiad yn rhybuddio fod y cwymp mewn gwylio llinol yn effeithio pob darlledwr ac yn heriol i S4C fel pob sianel arall, mae cyrhaeddiad blynyddol S4C ar deledu yng Nghymru wedi codi 5%  i 1,713,000 o wylwyr. Yn ogystal, bu cynnydd o 9% yn nifer o Gymry Cymraeg sy’n gwylio o wythnos i wythnos yn 2023-24 - y ffigwr uchaf ers chwe mlynedd.

O ran cynnwys bu’n flwyddyn hynod lwyddiannus i’r darlledwr, gyda’r cyfresi drama newydd AnfamolBariau a Pren ar y Bryn yn cipio cryn sylw a gwerthfawrogiad, a rhaglenni Cwpan Rygbi’r Byd a chwaraeon yn gyffredinol yn denu cynulleidfaoedd uchel ar draws holl blatfformau S4C.

Yn y cyfnod hwn llwyddodd S4C i ennill hawliau darlledu gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028 wedi cytundeb gyda Viaplay.

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi yn dilyn cyfnod anodd i’r darlledwr, ac mae’r Adroddiad yn cydnabod hyn ac yn amlinellu’r Cynllun Gweithredu gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2024 er mwyn adfer y sefyllfa.

Meddai Guto Bebb, Cadeirydd Bwrdd Unedol Dros Dro S4C: “Mae’r ffigurau yma yn coroni blwyddyn o waith uchelgeisiol S4C i wella ein cyrhaeddiad digidol.

“Nid un sianel bellach yw S4C. Fel darlledwr mae S4C nawr yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar S4C Clic, BBC iPlayer, YouTube a’r holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n hynod o bwysig er mwyn sicrhau cynulleidfa’r dyfodol.”

Ychwanegodd Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C: “Gyda diolch mawr i’r staff a’n partneriaid yn y sector gynhyrchu ry'm ni’n arbennig o falch cyhoeddi yr holl lwyddiannau a welwch yn yr Adroddiad yma. Does dim dwywaith y bu 2023-24 yn flwyddyn anodd dros ben i S4C ond mae gennym gynllun gweithredu beiddgar eisoes ar waith ac yn dwyn ffrwyth.

“Braf gweld bod y gwerthfawrogiad o’r sianel a’i chynnwys yn parhau’n gryf gyda’n gwylwyr. Mae’r farn gyffredinol am S4C wedi gwella eleni eto, am y drydedd flwyddyn yn olynol, ar draws siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd - gyda mwy nag erioed yn credu ein bod yn llwyddo i adlewyrchu Cymru gyfan, yn ei holl amrywiaeth. 

"Gallwn edrych ymlaen nawr yn hyderus i barhau i ddarparu’r cynnwys gorau i’n holl gynulleidfaoedd – sut bynnag y maen nhw’n dewis ein gwylio.”