MEWN cyfres newydd ar gyfer HANSH, platfform S4C ar gyfer rhaglenni pobl ifanc, mae wyth o eco-droseddwyr mwyaf Cymru yn dod at ei gilydd ac yn aros mewn iwrts heb wres canolog nac unrhyw beth moethus.

Dyma gyfres newydd i S4C yn cyfuno teledu realaeth gyda thrafod materion pwysig a chyfoes, ac elfen o gystadleuaeth wedi’i thaflu i’r pair yn ogystal.

Y cyflwynydd radio a theledu Sian Eleri sydd yn ein tywys trwy'r gyfres.

Meddai: “Am wythnos! Rhoddodd y grŵp bopeth i fewn i chwe’ diwrnod ofnadwy o heriol i ffwrdd o bopeth annwyl iddyn nhw.

“Roedd hyd yn oed y rheiny sydd fwyaf eco-gyfeillgar yn ein plith, yr arbenigwyr ddaeth i’r Tŷ Gwyrdd wedi rhannu ffeithiau anhygoel i’n gwneud i ni feddwl am yr hyn da’n ni’n ei wneud i’r blaned, a’r pethau bach fedrwn ni eu gwneud i wneud y byd yn lle mwy gwyrdd.

“Tra tydw i ddim yn eiddigeddus o sefyllfa dŷ bach compost y grŵp, faswn i wedi hoffi cael dip yn y twba poeth cynaliadwy!”

Un aelod o’r grŵp ydi Alaw Haf o’r Wyddgrug sydd yn creu cynnwys ar gyfer y platfform OnlyFans. Mae Alaw yn cyfaddef ei bod yn gwario’r rhan fwyaf o’i harian ar golur a fillers. Doedd hi ddim yn hapus pan yn cyrraedd y gwersyll ac yn wynebu un tŷ bach oedd yn defnyddio blawd llif yn lle dŵr, ac un gawod ar gyfer pawb.

Meddai Alaw: “O’n i’n casáu fo. Roedd popeth yn fudr ac yn oer. Ond wnes i sticio iddo fo, wnes i dynnu mhwysau yno a trio ngorau, fe wnaeth y profiad i gyd ddysgu llawer i mi.

“O’n i fatha ar y dechrau, here we go again, the eco thing again, ond mae o wedi gwneud i mi feddwl fwy am gyfrifoldeb personol. Oedd o’n eithaf neis peidio bod ar y ffôn, ac i fedru siarad gyda phobl!”

Y pedwar bachgen yn cymryd rhan ydi Ellis Lloyd Jones o Gwm Rhondda, Gwion Ellis o’r Bala, Connor Lloyd Owen o Aberporth a Daf Veck sydd yn byw yn Llundain. Y merched ydi Meg Davies o Gaerdydd, Khadiza Mosabbir o Aberteifi, Hannah Novello Bianchi-Jones o Gaerdydd ac Alaw Haf o’r Wyddgrug.

Dechreuodd Daf y gyfres gyda thri chwpwrdd llawn dillad yn ei fflat yn Llundain ac yn cyfaddef ei fod yn casáu gwersylla mewn coedwig. Roedd angen iddo ganfod y cryfder, yr amynedd a’r heddwch meddwl o rywle i bara’r chwe diwrnod.

Meddai: “Roedd hwn allan o fy comfort zone i yn llwyr. Roedd e mor anodd rhoi ein ffonau heibio am yr wythnos, ond fe wnes i ddysgu llawer a fi eisiau newid a gwneud gwahaniaeth.

“Mae’r holl brofiad wedi gwneud i fi adlewyrchu ac i sylweddoli sut wy’n cyfrannu at ddinistr – neu oroesiad, y blaned hon. Dwi ddim eisiau bod yn y grŵp dinistr mwyach. Dwi eisiau newid. Dweud y gwir dwi wedi creu sialens i fy hun i ddim ond prynu pump eitem o ddillad o fewn blwyddyn a dwi wedi lleihau fy nghwpwrdd dillad i ddim ond un.”

Bob nos yn ystod y gyfres, mae’r wyth yn cystadlu i ennill £5,000. Mae’n nhw i gyd yn pleidleisio dros y person sydd yn cyfrannu fwyaf at fywyd y gwersyll, gan ychwanegu awyrgylch  gystadleuol i sefyllfa sydd yn barod yn anodd.

Esbonia Daf: “Dyma ni yn trio, you know, byw a dod ymlaen gyda’n gilydd. Ond ar yr un pryd dyn ni’n cystadlu yn erbyn ein gilydd, ac yn chwarae gêm mewn ffordd. Roedd y cyfan yn eithaf mind blowing a bod yn onest.”

Bydd Y Tŷ Gwyrdd yn ymddangos ar blatfformau digidol S4C ar ddiwrnod Haen Osôn ar 16 Medi, ac yna ar y teledu ar 20 Medi cyn Diwrnod Gweithredu Newid Hinsawdd ar 24 Medi.