MAE S4C wedi derbyn 20 o enwebiadau yn restr fer gwobrau BAFTA Cymru 2024 a gyhoeddwyd ddydd Iau.
Mae pum enwebiad i’r gyfres ddrama-gomedi Pren ar y Bryn (Fiction Factory), gan gynnwys i’r ddau brif actor; Rhodri Meilir a Nia Roberts (categori Actor ac Actores) ac yn y categori Drama Deledu.
Mae’r rhaglen ddogfen Siân Phillips yn 90 (Rondo Media) wedi cael tri enwebiad, gan gynnwys i’r cyfarwyddwr Caryl Ebenezer (Cyfarwyddwr: Ffeithiol) ac yn y categori Rhaglen Ddogfen Sengl.
Mae dau enwebiad yr un i’r rhaglenni canlynol; y gyfres ddrama Bariau (Rondo Media) – un i Annes Elwy (Actores) ac un i’r cynhyrchydd Alaw Llewelyn Roberts (categori Torri Trwodd Cymru); y gyfres Siwrna Scandi Chris (Cwmni Da), i Chris Roberts (Cyflwynydd) ac yn y categori Cyfres Ffeithiol; a’r rhaglen ddogfen Paid â Dweud Hoyw (Rondo Media); i Stifyn Parri (Cyflwynydd) ac yn y categori Rhaglen Ddogfen Sengl.
Mae gan S4C ddau enwebiad yr un yn y categorïau Rhaglen Blant; Newyddion Ni (BBC Cymru) a Sêr Steilio (Yeti Television) a Rhaglen Adloniant; Cân i Gymru 2024 (Afanti Media) a Iaith ar Daith (Welsh on the Road) (Boom Cymru).
Enwebir Y Frwydr: Stori Anabledd (Cardiff Productions) yn y categori Cyfres Ffeithiol.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C: “Llongyfarchiadau mawr i bawb gafodd eu henwebu eleni ar gyfer gwobr BAFTA Cymru 2024.
“Mae llwyddiant cynnwys S4C yn dangos gwerth a doniau'r sector yng Nghymru ac rydyn ni’n hynod falch o’r holl gynnwys sydd wedi cael enwebiadau.
“Edrychwn ymlaen yn fawr at y seremoni wobrwyo fis nesaf a dymunwn bob lwc i bawb.”
Mi fydd modd gwylio holl raglenni S4C gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru ar S4C Clic yn fuan.
Bydd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru yn cael ei chynnal ar 20 Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.