Merched y Wawr

Cynhaliwyd cyfarfod nos Lun, 19 Hydref. Cydymdeimlwyd â Menai a gafodd brofedigaeth fawr ers y cyfarfod cynt. Cafwyd cofion i rai aelodau a llongyfarch eraill.

Aethpwyd ymlaen i groesawi Dr Hywel Parry Smith. Cafwyd bywgraffiad difyr o’i fywyd yn blentyn ac fel meddyg.

Cynhelir y swper Nadolig yn y Sun nos Lun, 7 Rhagfyr, enwau a blaendal o £10 i Ann yn y cyfarfod nesa.

Ennillwyd raffl roeddedig Ann gan Eluned.