Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bydd mynediad am ddim yn cael ei gynnig i deuluoedd incwm isel i Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i’r Maes.

Mae’r cyllid yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio. Cynhelir yr Eisteddfod yn Llanymddyfri rhwng 29 Mai – 3 Mehefin.

Mae dwy ffordd i deuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni:

• Aelodaeth £1 yr Urdd - bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau, ynghyd â chod disgownt unigryw i’r cyfri hwnnw.

• Ffurflen gais – i hawlio tocyn incwm isel bydd gofyn i deuluoedd lenwi ffurflen gais ar wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf cyn gellir gwneud cais am docyn. Bydd manylion llawn y meini prawf ar gael ar y wefan yr Urdd.

Dywedodd Siân Lewis, prif eeithredwr yr Urdd: “Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol sy’n ein galluogi i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

“Mae dros 75,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth. Yn barod fel mudiad rydym yn cynnig Aelodaeth £1 yr Urdd i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.

“Eleni mae’r Urdd hefyd wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i’r rhai sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd.

“Bydd y cyfraniad o £150,000 gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r Urdd i barhau gyda’n hymrwymiad i bawb, gan sicrhau cyfle i bawb fynychu a phrofi cyffro Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.

“Ein gobaith fel mudiad yw sicrhau ‘Urdd i Bawb’ a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gystadlu ac elwa o weithgareddau’r Urdd.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac yn ffordd wych i’n plant a’n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael. Rwy’n falch bydd y cyllid hwn yn helpu fwy o deuluoedd i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yn ystod y digwyddiad.”

Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru: “Dyma ddatblygiad hollbwysig i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn ymweld a chymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd.

“Mae Plaid Cymru yn falch i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cyllid i ddarparu’r cyfle yma.”

Bydd tocynnau Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn mynd ar werth dydd Mawrth 28 Mawrth, 2023. Gellir prynu tocynnau neu hawlio tocyn mynediad am ddim drwy fynd i www.urdd.cymru/