YN pwyso 45 stôn a’i aren yn methu, doedd Ioan Pollard ddim yn gwybod a fyddai’n gweld y bore.
Roedd y dyn ifanc 27 mlwydd oed angen trawsblaniad ond oherwydd ei bwysau, nid oedd yn gallu mynd ar y rhestr aros.
Mewn rhaglen arbennig, bydd Marw Isio Byw, yn dilyn Ioan wedi iddo golli 30 stôn a chyrraedd y gôl am aren newydd.
Meddai Ioan, sydd o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol: “Doedd gen i ddim hunan reolaeth. Odd bwyd a byta yn rheoli be o’n i’n neud a sut o’n i’n byw fy mywyd. Ar y pryd baswn i byth wedi cyfadda mod i yn ddibynnol ar fwyd ac yn gorfyta, ond wrth edrych yn ôl, yn amlwg mi odd o.”
Wrth roi’r pwysau ymlaen tra’n fyfyriwr ac yn ei ugeiniau roedd ei iechyd yn dirywio, a mis wedi ei benblwydd yn 27 oed bu bron iddo golli ei fywyd.
“Dwi’n meddwl bo’ fi ’di wirioneddol pwsho’n hun mor bell ag o’n i’n gallu o ran faint odd y corff yn medru ei ddiodda. Ddudon nhw yn Ysbyty Gwynedd ar y pryd, ma’r wyth awr nesa ’ma yn dyngedfennol ac efallai na fyddi di yma yn y bore.”
Roedd Ioan wedi cael crafiadau ar ei goes a rheiny wedi troi’n septig.
“Mi oedd o’n amlwg yn syth bod fy arennau i wedi cael eu hambygio yn ddifrifol pryd ddudon nhw wrtha i ’di petha ddim yn edrych yn dda, ’da ni angen dechra siarad am dialysis achos fel wyt ti wan sgim ti ddim gobaith o gael trawsblaniad, a’r gwir plaen amdani, o’n i lot rhy dew.”
Yn edrych nôl trwy ei ddillad o’r cyfnod, roedd ei wast wedi cyrraedd bron i chwe throedfedd, ac roedd yn gorfod prynu dillad arbennig i’w faint.
“Baswn i’n gallu bod yma tan ddydd y farn yn beio hyn llall ac arall am y sefyllfa o’n i ynddi ond yn syml odd o’n dod lawr i ddau beth, bo fi’n lot rhy farus a bo fi’n lot rhy ddiog.
“Dwi’n edrych nôl mewn embaras llwyr mod i wedi dewis i bob pwrpas i fyw fy mywyd fel ’na, a dim ond wan dwi’n medru edrych nôl mewn cywilydd.”
Mewn cyfnod o 7 mlynedd, gyda help llawdriniaethau bariatrig i leihau ei stumog a thynnu croen collodd dros hanner ei bwysau, a thrideg stôn yn ysgafnach roedd o’r diwedd yn cael ei ystyried yn gymwys am drawsblaniad.
Gyda mynediad arbennig i’r lawdriniaeth, bydd Marw Isio Byw, nos Lun 24ain am 8yh ar S4C, yn dilyn Ioan wrth iddo o’r diwedd gael trawsblaniad aren yn y gobaith o adennill ei fywyd.
Yn falch o fod yn cyrraedd y gofynion angenrheidiol i roi organ i’w mab, roedd Eleri Pollard yn barod i wneud unrhyw beth i roi bywyd newydd iddo: “Dwi isio i Ioan gael byw ei fywyd, mae o’n haeddu o.”
I Ioan, mae’n gobeithio ei fod yn ddechrau newydd: “Dwi di bod drwy gymaint dwi jyst isio i hwn weithio heb unrhyw broblem. Dwi’n meddwl bod o’n naturiol i boeni, poeni mwy am Mam na fi’n hun achos ma’ Mam yn rhoi ei hun mewn sefyllfa fregus o’i gwirfodd i drio gwella mywyd i. Mae o i gyd yn pwyso ar hwn.”
Marw Isio Byw, nos Lun 24 Mawrth, am 8yh ar S4C.