Cynhaliodd Clwb Cinio Cylch Llanbed ei bedwerydd gyfarfod o’r tymor yng Ngwesty’r Grannell, Llanwnnen, ar 2 Chwefror dan lywyddiaeth John Davies, Tynlofft.

Y tro hwn ei bleser arbennig oedd croesawi Mared Rand Jones fel siaradwraig y noson.

Yn enedigol o Fferm Llanfair Fach, yr oedd Mared yn gyfarwydd i lawer o’r aelodau ac yr oedd ei dewis destun hefyd yn agos i’w calonnau, sef ‘Heriau’r presennol a’r dyfodol i’r Sioe Frenhinol’.

Yn bennaeth gweithrediadau’r sioe pan drefnwyd rhaglen y tymor gan Twynog Davies, ysgrifennydd siaradwyr y clwb, y mae Mared erbyn hyn fodd bynnag yn brif weithredwr CFfI Ceredigion. Felly cafodd yr aelodau gipolwg ar yr heriau sydd yn wynebu’r ddau fudiad hyn sydd â chysylltiad mor glos â’i gilydd.

Cafwyd tipyn o hanes y Sioe Frenhinol o’i dechreuad a chrynodeb o’i hamcanion (hyrwyddo amaeth, cadwraeth a diwylliant cefn gwlad yn eu plith) ac o’i strwythur gweinyddol o fwrdd, cyngor a phwyllgorau lawer. Pwysleisiwyd mai elusen yw’r sioe ac yn anochel bu cyfnod y pandemig yn anodd ond diolch i ymdrechion y gorffennol yr oedd cyllid y sioe’n gryf ac wrth gwrs cafwyd cymorth gan y llywodraeth. Er hynny y mae’r cynnydd digynsail mewn costau sy’n nodweddi’r byd cyfoes ynghyd â’r prinder gweithwyr yn gosod her sylweddol.

Aeth Mared ymlaen i roi amlinelliad o hanes a natur mudiad CFfI Cymru – 157 o glybiau dan 12 ffederasiwn sirol. Mynegodd Mared ei balchder am y modd y bu’r clybiau’n helpu eu cymunedau yn ystod y pandemig ond dim syndod clywed fod problemau cyllid yn heriol dros ben erbyn hyn gyda’r Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol yn gwneud colled o gan fil a hanner y flwyddyn ddiwethaf sy’n golygu na fydd i’w weld yn y sioe eleni.

Yr oedd gan nifer o’r aelodau gwestiynau i Mared, un ohonynt yn ymwneud ac ymweliadau i’r sioe gan bwysigion a difyr oedd clywed o’i phrofiad fel pennaeth gweithrediadau fod aelodau o’r teulu brenhinol yn haws i ymdopi a hwy na’r gwleidyddion – ymweliad y Dywysoges Anne, er enghraifft, yn drefnus ond ymweliad Boris Johnson braidd yn drafferthus!

Rhoddwyd gair o ddiolch i Mared gan Eifion Williams am gyflwyniad diddorol gan ei llongyfarch ar ei swydd newydd a dymuno’n dda iddi hi ynddi.

Daeth y llywydd a’r noson i ben trwy estyn gwahoddiad cynnes i wragedd a chyfeillion yr aelodau i gyfarfod Gŵyl Dewi’r Cylch ar nos Iau, 2 Mawrth yng Ngwesty’r Grannell pan groesawir Trefor Pugh ac Eleri Roberts i ddiddanu a dathlu’r achlysur.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]