ELENI, cynhaliwyd nawfed eisteddfod yr ysgol a chafwyd cystadlu, hyfforddi ac ambell i berfformiad tanbaid yn ôl y traddodiad sydd wedi ei hen sefydlu bellach.

Arfon Williams oedd yn beirniadu’r cystadlaethau cerdd a Sian Emlyn oedd wrth ei ochr i feirniadu’r llefaru a’r sgetsau.

Nid tasg hawdd i Arfon oedd penderfynu pwy a deilyngai gwobr goffa Nia Pritchard Jones am yr unawd lleisiol gorau ac Elis Garmon o dy Llafar hawliodd y tlws eleni.

Roedd y ddau feirniaid yn unfrydol mai eitem orau’r eisteddfod eleni oedd unawd piano Gruffudd ab Owain.

Cafwyd gwledd o adloniant – o ddawnsio stryd i ddeuawd cerdd dant, o unawd drymiau i feim cân lle cafodd y bechgyn eu cyfle blynyddol i wisgo eu sgertiau tynn a cholur dros ben llestri!

Un o uchafbwyntiau’r prynhawn oedd seremoni anrhydeddu’r llenor hyn â chadair wedi’i noddi gan gwmni adeiladu Wynne a’r llenor iau â thlws wedi’i gyflwyno gan Pethe Penllyn.

Erin Aled o dy Lliw oedd yn deilwng o’r Gadair, ym marn y beirniad Eirian Jones, Carrog, a rhoddwyd canmoliaeth uchel i safon y gystadleuaeth yn gyffredinol. Gruffydd ab Owain o dy Tryweryn a wobrwywyd â Thlws yr Ifanc. Bydd modd darllen eu gwaith ym Mhethe Penllyn maes o law.