Cynhaliwyd carnifal llwyddiannus ar gael chwarae Llanarth yn ddiweddar.
Roedd swyddogion y carnifal, sef Daisy Tanner (Morwyn Flodau), Elsi Jones (Tywysoges), Tilly Gilmore (Brenhines), Osian Davies (Tywysog) a Dion Davies (Gwas Bach) yn edrych yn drwsiadus iawn.
Diolch i Liz a Garym Roberts am fod yn lywyddion ac i Liz a‘i mherch Bethan am feirniadu adrannau’r gwisg ffansi.
.jpg?trim=0,2,0,1&width=752&height=500&crop=752:500)
Roedd y safon yn eithriadol o uchel a dyma’r canlyniadau:
Cyn meithryn – 1af Jac y do: Leisa Jones; 2ail Craig Bellamy: Jacs Davies; 3ydd Heddwas: Winnie Davies
Meithryn – 1af Llyfrgell Aberaeron: Glain Jones; 2ail Dim Ffermwyr Dim Bwyd: Llywelyn Bevans; Cydradd 3ydd Banc Sion Cwilt: Briall Jones & ‘’Fuo chi ‘rioed yn morio?’’: Ifan Jones
.jpg?trim=0,2,0,1&width=752&height=500&crop=752:500)
Dosbarth Derbyn – 1af Amddiffynfeydd Arfordirol Aberaeron : Tomi Davies; 2ail ‘’Little Bo Peep’’: Mali and Tomi Jones; 3ydd ‘’Clarkson’s farm’’: Gruff Jones
Blwyddyn 1&2 – 1af Cowboi builder: Mostyn Jones , Cydrdd 2ail - Harry Potter: Lucas Evans & Cowboi: Will Davies ; 3ydd Taylor Swift :Heti Evans

Blwyddyn 3&4 – 1af Luigi : Courtney Jones; 2ail Jac y do: Tony Chandler; 3ydd Tywysoges: Amarah Gould
Parau - Cydradd 1af Cowboi Bildars: Mostyn Jones and Tomi Davies & Cowbois: Will and Ted Davies; 2ail – Hwiangerddi: Ifan and Leisa Jones; 3ydd - Mario & Luigi: Courtney and Jenson Jones
.jpg?trim=0,2,0,1&width=752&height=500&crop=752:500)
Bu rhedeg brwd yn y mabolgampau a diolch i’r stondinwyr ddaeth i gefnogi, darparwyr y bwyd ac i bwyllgor y neuadd am drefnu.