Cymanfa Ganu
CYNHALIWYD Cymanfa Ganu Dosbarth Tabor eleni yng Nghapel Carmel ar 15 Mai.Cafwyd dwy oedfa ardderchog yng nghwmni’r arweinyddes Heledd Wil-liams o Derwen Gam.Llywydd y prynhawn oedd Beti Griffiths, Lleifior, Llanilar ac estynnodd groeso i’r arweinyddes yn ogystal â chyflwyno plant Carmel i ddechrau’r oedfa.Roedd dros 20 o blant yn bresennol o’r pedair Ysgol Sul.Mwynhaodd y plant anerchiad Miss Griffiths ac roeddent am y cyntaf i adnabod ‘logo’ y gwahanol geir a thractorau. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld os mae Ferrari fydd car nesaf Miss Griffiths!Roedd Rhiannon Parry hefyd yn ei chynorthwyo.Organyddes y prynhawn oedd Heledd Davies, Coedllys a’r casglyddion oedd dwy o ferched Carmel, sef Jane a Cari.Gwahoddwyd pawb i’r festri i gael gwledd o fwyd, wedi ei baratoi gan chwiorydd Carmel.Am 6yh cafwyd Cymanfa’r Oedolion o dan lywyddiaeth ein gweinidog, y Parch Nicholas Bee.Cafwyd anerchiad pwrpasol gan lywydd yr hwyr, sef Ann Evans, Glanwern, Llanilar.Ann yn olrhain yr amser pleserus roedd hi a’i theulu wedi cael yn y Gymanfa. Organyddes yr hwyr oedd Brenda Parry Owen.Talwyd y diolchiadau gan Marion Hopkins Williams a diolchodd i bawb am y trefniadau ac yn enwedig i arweinyddion y rihyrsals, sef Beti Wyn Emanuel a Judith Jones.Diolchwyd am y blodau hardd, oedd yn rhoddedig gan William Roberts, i harddu’r cysegr ac yn arbennig iawn i’r cyfeillion o’r dosbarthiadau eraill a ddaeth i’n cynorthwyo.Casglyddion yr hwyr oedd yr Athro Len Jones a Jean Evans a thraddodwyd y fendith yn y ddwy oedfa gan y Parch N Bee.Swyddogion y pwyllgor yw: cadeirydd, Richard Woolley; ysgrifennydd, Mair Jones; trysorydd, Judith Jones.