Church Services
SUNDAY, 13 March: Llandysul: 8am, Communion; 11am, Boreol Weddi; 5pm, Cwrdd.Llangynllo: 9.30am, Morning Prayer.Pontsian: 2pm, Communion. Wednesday: 10.30am, Communion.Thursday: 7.30pm, Lent prayer meeting at the church hall.
Te Cymreig y Graig
ROEDD yn braf unwaith eto gweld pawb yn mwynhau’r te a’r sgwrsio, y prynu a’r bwyta yn festri’r capel. Agorwyd y noson gan Rhian Morris, Graigwrtheyrn, a gafodd ei chyflwyno gan y Parch Wyn Thomas ac a roddodd araith bwrpasol.
Merched Cylch Clettwr
AR 2 Mawrth daeth yr aelodau ynghyd yn Nhresi Aur, gyda Mair wedi gwneud y cawl a Gloria y pwdin. Roedd pawb wedi mwynhau a diolch am bob cyfraniad a chefnogaeth.Bydd y cyfarfod nesaf, sef noson o grefftau, ar nos Fercher, 1 Ebrill, yn Nhresi Aur