Cyhoeddir cyfrol gyntaf yr actor Andrew Teilo yn Llandeilo nos fory.
Mae Pryfed Undydd (Y Lolfa) yn gasgliad o storïau byrion darllenadwy am bobl sydd ar y trothwy ac am gyflwr dynol ar ei fwyaf amrwd a mympwyol.
Mae Andrew Teilo yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pobol y Cwm, ac wedi chwarae rhan Hywel Llywelyn ers dros 30 mlynedd. Ers mis Mai 2022, mae’n Gynghorydd Sir dros ward Llangadog ar Gyngor Sir Gâr. Yn Pryfed Undydd daw’r awdur â thafodiaith Sir Gâr ôl i olwg y darllenwr Cymraeg.
Meddai Andrew: “Rwy wedi ysgrifennu’n ddiwyd ar hyd y blynyddoedd, ond wastad at fy nibenion fy hunan. Llenydda er mwyn y pleser o lenydda yn unig.
“Fe wnaeth ennill gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol [ym Mhrifysgol Abertawe] roi’r hyder i mi gyhoeddi fy ngwaith, ynghyd â’r adborth, gan nifer o bobl rwyf yn parchu eu barn, a’m hanogodd i gyhoeddi fy storïau. Yn llythrennol, mae cyhoeddi fy ngwaith yn wireddiad oes.”
Disgrifir y casgliad fel “gwaith aeddfed a galluog sy’n dangos ôl myfyrio. Aeth yr awdur ati’n uchelgeisiol – a llwyddo – i greu cymhlethdod emosiwn lle buasai awdur llai abl wedi bodloni ar rwyddineb melodrama,” gan Eurig Salisbury. Tra bod Jon Gower yn ei ddisgrifio fel “Llais ffres ac egnïol sy’n perthyn i awdur sy’n deall hanfodion y stori fer.”
Yn y gyfrol mae’r awdur yn rhoi ei gymeriadau ar y dibyn, ar ‘riniog y porth’, ac yn eu gorfodi nhw i wneud dewisiadau arwyddocaol. Mae’r casgliad yn pendilio rhwng yr ysgafn a’r dwys, y real a’r goruwchnaturiol. Ceir cyfuniad o straeon cyfoes a straeon sy’n portreadu bywyd cefn gwlad fel y bu.
Ychwanegodd Andrew: “Os oes yna linyn, efallai mai ‘byrhoedledd pethau’ yw hynny.
“Mae’n destun oesol, ydy, ond un sydd yn ddi-ball ei ddefnydd. Lliwgar ac unigryw yw cymeriadau’r gyfrol, mewn storïau sy’n newid cywair y cyfanwaith fesul un.”
Bydd Pryfed Undydd yn cael ei lansio’n swyddogol am 7 o’r gloch ar nos Wener 27ain Hydref yn Hengwrt, Llandeilo, drwy wahoddiad yn unig.
Digwyddiadau eraill:
14/11 – 7yh, Llyfrgell y Dref, Aberystwyth (i’w gadarnhau)
19/11 – 11:30yb, Hengwrt, Llandeilo, yn rhan o Ŵyl y Synhwyrau
23/11 – 7yh, Clwb Pêl-droed Caerfyrddin
25/11 – Palas Print, Caernarfon
2/12 – 11yb – 1yp, Awen Teifi, Aberteifi
• Mae Pryfed Undydd gan Andrew Teilo ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).