Cynhaliwyd Carnifal Pontrhydfendigaid llwyddiannus iawn dydd Sadwrn, 8 Gorffennaf, gyda chystadleuwyr niferus, a thyrfa luosog yn y pafiliwn.
Cychwynwyd o’r Glas gan orymdeithio drwy’r pentref i’r pafiliwn ar gyfer y beirniadu.
Cyflwynodd cadeirydd y pwyllgor, Jên Ebenezer lywydd y carnifal am 2023, sef Sian Hume o’r Alban (Sian Jenkins, Bryneglur gynt) a chafwyd ganddi eiriau pwrpasol a rhodd hael tuag at y coffrau. Hi a’i gŵr Colin oedd yn beirniadu, gyda Sian yn coroni’r frenhines, sef Leah Durber ac roedd y frenhines a’i gosgordd Maisie Durber, Heti Evans, Rhys Williams a Rowan Durber yn edrych yn hardd iawn. Cyflwynodd Jên Ebenezer anrhegion i’r pump ohonynt ar ran y pwyllgor. Cyflwynwyd basged o flodau i Sian gan Gwenno Evans, brenhines 2022.
Yr arweinydd oedd Richard Jones, gyda Geraint Lloyd yng ngofal y sain.
Wedi i gystadleuthau’r carnifal ddod i ben, cafwyd gornest flynyddol Taflu Weli ar gae’r pafiliwn, a chael tro neu ddau ar y Castell Gwynt, ac fe gafodd bawb gyfle i fwynhau’r tê hyfryd a oedd wedi ei baratoi gan y pwyllgor.
I ddiweddu’r noson, cafwyd adloniant gan Dai Pantrod a’i fand, pryd y cafodd pawb gyfle i ymlacio, dawnsio ac ymuno yn y canu, ac roedd y pwyllgor eto wedi paratoi swper hyfryd ar gyfer pawb. Yn ystod sesiwn y nos, tynnwyd y raffl a gwerthwyd nwyddau ar Ocsiwn yng ngofal Richard Jones. Dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb o’r noddwyr, ac i bawb a gefnogodd y Carnifal eleni mewn unrhyw fodd.
Enillwyr: Plant oedran Grŵp Ti a fi: 1, Jac Do, Gwion Puw; 2, Mwnci o’r Syrcas, Rhydian Davies; 3, ‘Yma I drwsio’r Bont’, Gwion Edwards. Plant oedran Cylch Meithrin: 1, Clown, Elsi Edwards; 2, Môr-leidr, Jona Bago; 3, Dyn Cryf, Awen Jones.
Plant Derbyn: 1, Frankie Detori, Elan Williams; 2, Wednesday o’r Addams Family, Jano Jones; Elsa o Frozen, Lois Edwards. Plant Bl 1 a 2: 1, Tylwyth Teg y Dannedd, Mari Wyn Hughes; 2, Hufen Ia Sioe Aber, Deio Jones; 3, Rwdolff, Anni Hughes a Tywysoges, Glesni Jones. Plant Bl 3 a 4: 1, Balŵn Awyr-gynnes, Delun Huws Jones; 2, Mario, Lewis Evans. Plant Bl 5 a 6: 1, Coed y Bont, Anest Jones; 2, Brenhines y Calonnau, Jess Owen; 3, Titw Tomos Las, Sara Puw.
Oedran Uwchradd ac Oedolion: 1, William Wallace, Wil Evans; 2, Bo-Jo, Ina Morgans; 3, Glastonbury 2023, Joan Davies. Pâr: 1, Titw Toms Las a Jac y Do, Sara a Gwion Puw; 2, Bil a Ben, Gweneira a Seren Fflur; 3, Acrobat a Dyn Cryf, Steffan Hughes a Lea Arch.
Dyn wedi gwisgo fel menyw/menyw fel dyn: 1, Bil, Seren Fflur; 2, Bo-Jo, Ina Morgans; 3, Geraint Thomas, Sara Puw. Hysbyseb, plant oedran Cynradd ac iau: 1, ‘Growmore’, Seren Fflur; 2, Rasus Tregaron, Elan Williams; 3, Teisennau Jam Brenhines y Calonnau, Jess Owen. Hysbyseb, oedolion ac oedran Uwchradd: 1, Gwin y Gwan, Ina Morgans; 2, Glastonbury, Joan Davies; 3, ‘Growmore’, Gweneira Fflur. ‘Mobility scooter’ wedi ei addurno: Mynd i Glastonbury ar y Sgwter, Joan Davies.
Y gorau o enillwyr adran y plant: Balŵn Awyr-gynnes, Delun Huws Jones. Y gorau o enillwyr oedran Uwchradd ac oedolion: William Wallace o Braveheart, Wil Evans. Fflôt neu Dablo: 1, Syrcas, Y Cylch Meithrin; 2, Braveheart, CFfI Tregaron; 3, Groto Sion Corn, Ysgol Sul Rhydfendigaid a Comanchos, Criw Ffair Rhos. Enillydd dylunio clawr rhaglen y carnifal: Emily Smith-Jones. Enillydd Taflu Weli: Plant, Wil Arch a Beca Willcocks; Oedolion, Tim Durber a Vicky Jenkins.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]