Roedd gwyddonydd newid hinsawdd o Brifysgol Aberystwyth, a dreuliodd Dydd Nadolig yn Antartica fel rhan o’i gwaith maes, yn falch iawn o ddal ati gyda’i Chymraeg yng nghanol yr eira a’r iâ, er gwaetha’r diffyg cyswllt rhyngrwyd.
Mae Katie Miles, sy’n wreiddiol o Lundain, wedi bod yn dysgu Cymraeg ddwywaith yr wythnos ers 2020, gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys - Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Roedd Katie yn awyddus i ymarfer ei Chymraeg pan fu’n gweithio am wyth wythnos yng ngorsaf ymchwil Rothera ac ar silff rew Larsen C ar Benrhyn Antartica. Roedd hi’n rhan o brosiect fu’n edrych ar y modd mae rhew yn torri, ac yn cyfrannu at lefelau’r môr yn codi.
Mi wnaeth Katie fwynhau defnyddio Duolingo, ac mi wnaeth hi lawr lwytho Podlediad Pigion y Dysgwyr BBC Radio Cymru, er mwyn gwrando arno yn y mannau mwyaf anghysbell, pan nad oedd cyswllt rhyngrwyd o gwbl.
Penderfynodd Katie ddysgu Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith gyda ffrindiau a chydweithwyr, fel yr eglura: “Ro’n i eisiau siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau, achos roedden nhw yn dueddol o siarad Saesneg tra ro’n i yn eu cwmni.
“Ro’n i hefyd eisiau defnyddio ychydig o Gymraeg wrth fy ngwaith, a dw i’n ceisio defnyddio’r iaith pan dw i’n gallu.
“Mae siarad gyda ffrindiau a chydweithwyr yn eu mamiaith a deall cymaint mwy o’m cwmpas wrth i fy Nghymraeg wella, yn deimlad arbennig.”
Dyma oedd ymweliad cyntaf Katie ag Antartica ac mae’n gobeithio mynd i Ddwyrain Antartica i ymgymryd â phrosiect ymchwil tebyg yn hwyrach eleni.
Mi wnaeth hi fwynhau pob munud o’r daith: “Cafodd y daith adref ar yr awyren ei hoedi achos roedd rhew difrifol yno, felly bu rhaid i ni dreulio Dydd Nadolig yn yr orsaf ymchwil.
“Ro’n i’n drist mod i’n methu bod adref gyda’r teulu, ond roedd pawb mor groesawgar.
“Mi wnes i sgïo yn y bore, canu carolau ar fwrdd llong RRS Sir David Attenborough, gweld pengwiniaid, a chael cinio Nadolig hyfryd gyda’r hwyr.”
Ers dychwelyd i Aberystwyth, mae Katie wedi manteisio ar bob cyfle posib i ymarfer siarad Cymraeg gyda’i mentor, Caroline White;
“Mae cyfarfod Caroline unwaith bob pythefnos wedi bod yn hwb mawr i mi. ’Dyn ni’n ymarfer pethau o’r dosbarth, edrych dros bapurau arholiad, neu yn cael sgwrs.
“Mae hi mor gefnogol a bu o gymorth mawr wrth i mi baratoi ar gyfer fy arholiad Dysgu Cymraeg. Dw i’n ddiolchgar iawn i Caroline am gynnig ei hamser ac am fy nghefnogi ar y siwrnai hon.”
Ychwanegodd Caroline White: “Dw i wrth fy modd yn cyfarfod Katie ac yn gweld ei sgiliau Cymraeg yn datblygu.
“Mae hi’n gydwybodol ac mi wnaeth gwblhau ei gwaith cartref cyn mynd ar y daith rhag ofn iddi fod ar ei hôl hi. ’Dyn ni’n cyfarfod ers y cyfnod clo ond wnaethon ni gyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
“Mae’n bleser gallu cyfarfod wyneb yn wyneb rwan a chefnogi Katie gyda’i thaith i ddysgu’r iaith.”