Merch a wisgodd sawl het oedd Gwyneth Vaughan o Dalsarnau, ger Harlech.

Roedd hi’n awdures, yn flaenllaw yng ngwleidyddiaeth ei chyfnod, yn ymgyrchydd dros ddirwest ac yn aelod o Orsedd y Beirdd, mewn cyfnod pan nad oedd yn barchus i ferched gael eu gweld yn chwarae rhan ry amlwg mewn bywyd cyhoeddus.

Ysgrifennodd dair o nofelau, ac roedd yna bedwaredd ar y gweill pan fu hi farw ar y 25 Ebrill 1910.

Cafodd ei geni ym Mryn y Felin, Eisingrug, Talsarnau ar y 5 Gorffennaf 1852. Melinydd oedd ei thad, a byddai Gwyneth yn ei helfen yn gwrando ar sgyrsiau’r rhai a ddeuai i’r felin am flawd ac i roi’r byd yn ei le. Dyma ble y dysgodd cymaint, o oed ifanc, am draddodiadau a diwylliant ei hardal.

Ar ôl wyth mlynedd o addysg yn Ysgol Ty’n Llan, Llandecwyn ac Ysgol Fritanaidd Talsarnau, aeth i ddysgu gwneud hetiau yn Llan Ffestiniog. Bu’n dilyn y grefft honno gartref am beth amser, cyn symud i siop yng Nghlwt y Bont, Deiniolen ger Caernarfon, a chyn bo hir, byddai mab y siop yn dod yn ŵr iddi.

Aethant i fyw i Lundain am gyfnod er mwyn i’r gŵr, John Hughes Jones, hyfforddi’n feddyg. Fe wnaethant ddychwelyd wedyn i Gymru, ond fe fu farw John Hughes yn weddol ifanc oherwydd ei gaethiwed i alcohol.

Mudodd Gwyneth a’i phedwar plentyn i Fangor, ac yno dechreuodd lenydda’n broffesiynol, gan lwyddo i roi addysg dda i bob un o’r plant er mor dlawd oedd hi.

Ysgrifennai i bapurau lleol a chylchgronau fel Cymru’r Plant, Y Genhinen a Cymru, ac roedd ei chyfraniadau i’r cylchgronau hynny, ym marn neb llai na Syr O M Edwards, yn nodedig. Roedd hi hefyd yn un o sefydlwyr Cymru Fydd, y mudiad a ymgyrchai dros annibyniaeth i Gymru.

Bydd Shân Robinson, cydlynydd casgliadau arbennig, Llyfrgell Prifysgol Bangor yn rhoi darlith a chyflwyniad gweledol arni yn Neuadd Talsarnau ger Harlech nos Iau, 27 Ebrill am 7yh.

Mae gan Shân ddiddordeb arbennig yn hanes merched Cymru. A hanes addysg merched yng Nghymru oedd pwnc ei thraethawd MA.