Mae’r actores deledu a llwyfan adnabyddus Gillian Elisa, o Lambed, wedi ymuno â chast Branwen: Dadeni, mae’r cyd-gynhyrchwyr Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen wedi cyhoeddi, wrth i ymarferion gychwyn yng Nghaerdydd ar gyfer y sioe gerdd ddramatig Gymraeg newydd.
Bydd yr ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen, o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi, yn mynd ar daith ar draws Cymru ym mis Tachwedd.
Mae tocynnau ychwanegol wedi’u rhyddhau yng Nghaerdydd oherwydd galw mawr, tra bod perfformiadau wedi gwerthu allan yn barod yn Aberystwyth a Bangor.
Bydd Gillian Elisa yn chwarae rôl Ena, ffigwr sy’n cynghori Matholwch, Brenin Iwerddon. Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin a’i magu yn Llanbedr Pont Steffan, a chaiff ei hadnabod fwyaf am ei rolau yn Pobol y Cwm a Hidden.
Cyn ymuno â’r cast heddiw cyn ymarferion cyntaf y sioe, dywedodd: “Ar ôl chwarae rôl Branwen ym Melltith ar y Nyth, yr opera roc Gymraeg gyntaf ar y teledu, rwy’n teimlo ‘mod i’n cau’r cylch wrth ymuno â chynhyrchiad cenhedlaeth newydd yn seiliedig ar straeon y Mabinogion.
“Mewn bron i 50 mlynedd ar lwyfan a sgrîn, dyma fydd fy nghyfle cyntaf hefyd i berfformio yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru hefyd.
“Dydw i methu aros!”
Mae Octet o gantorion, a fydd yn rhan o waead gerddorol y sioe, hefyd wedi’i datgelu.
Aelodau’r Octet fydd Lisa Angharad, Huw Euron, Steffan Hughes, Miriam Isaac, Elan Meirion, Niamh Moulton, Cedron Sion ac Adam Vaughan.
Mae dwy actor ifanc o Gaerdydd hefyd wedi’u castio i rannu rôl sylweddol fel Gwern/Child.
Bydd Mali Grooms a Tegwen Velios yn perfformio yn y tair lleoliad, ill dwy’n perfformio ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf.
Maent yn ymuno â chast dalentog sydd wedi’i arwain gan y cerddor a pherfformiwr arobryn Mared Williams, sy’n chwarae’r brif rôl.
Caitlin Drake (Miss Littlewood, RSC & Cunard; Pavilion, Theatr Clwyd) fydd yn chwarae Efnisien, chwaer Branwen, tra bydd Rithvik Andugula o Gaerdydd (debut broffesiynol) yn chwarae Matholwch – gan loywi ei Gymraeg ar ôl peidio ei ddefnyddio ers bod yn yr ysgol.
Tomos Eames (BBC Shakespeare and Hathaway Private Investigators; S4C Gwaith/Cartref) fydd yn chwarae Bendigeidfran – brawd Branwen a Brenin Cedyrn – tra bydd Ioan Hefin (Netflix Apostle; BBC Steeltown Murders) yn chwarae Picell – presenoldeb dirgel newydd yn y stori.
Dywedodd Mared Williams: “Rwy’n edrych ymlaen ac yn nerfus i fod yn rhoi fy sbin fy hun ar Branwen a dechrau ystyried cymeriad Cymreig mor eiconig a chymhleth.
“Mae cael prosiect mor fawr wedi’i wneud yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth rwy’n angerddol iawn amdano ac mae’n golygu llawer i fod yn rhan o’r sioe hon.”
Mae Branwen: Dadeni wedi’i ysgrifennu gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Caiff ei chyfarwyddo gan gyfarwyddwr artistig Frân Wen Gethin Evans, gyda’r tîm creadigol sydd eisoes wedi’i gyhoeddi yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Elin Steele, y dylunydd goleuo Bretta Gerecke, y sgoriwr Owain Gruffudd Roberts, a’r cyfarwyddwr castio Hannah Marie Williams.
Bydd Branwen: Dadeni yn agor yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru (8–11 Tachwedd 2023), yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (15–17 Tachwedd 2023) ac yn gorffen yng Nghanolfan Pontio, Bangor (22–25 Tachwedd 2023).