Mae Pared Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn dathlu penblwydd yn ddeg oed ac mae’r Tywysydd eleni wedi galw ar i bawb sydd ag unrhyw gysylltiad a’r dre a’r ardal yn siaradwyr Cymraeg i fod yn rhan o ymgyrch i hyrwydd Cymreictod y dre.
Yr arloeswr PR, tad Mr Urdd a’r artist o Lanfihangel Genau’r Glyn Wynne Melville Jones (WynMel) sydd wedi derbyn yr anrhydedd i Dywys y Pared eleni ar hyd strydoedd y dre sydd wedi bod yn allweddol o safbwynt o safbwynt y Gymraeg – tre yr Ysgol Gymraeg gyntaf yn Swyddfa’r Urdd, Protest CIG Pont Trefechan a chartref i nifer o sefydliadau cenedlaethol pwysicaf Cymru gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth.

Y nod yn ôl WynMel yw troi’r gornel a cheisio ennill ewyllys da tuag at y Gymraeg ym mhob carfan ac ymhob agwedd o fywyd y dre a’r ardal a hynny mewn ymateb i ffigyrau y Cyfrifiad sy’n dangos dirywiad o dros 3,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion yn unig.
Meddai WynMel: “Rhaid taclo hyn nawr ac i lwyddo mae angen creu ethos newydd o falchder ac o ddefnydd i’r Iaith mewn ffordd ysgafn a hwyliog trwy ddechrau gyda pawb pwy bynnag ydynt yn cyfarch ei gilydd yn yr Iaith nid unwaith y dydd ond trwy gydol y dydd bob dydd.
“Mae’n golygu cyfaddawdu a chreu dealltwriaeth well rhwng gwahanol garfannau mewn ffordd gynhwysol a chyffrous a deniadol.
“Y cam cyntaf yw cael pawb i ymgyfarwyddo â geiriau allweddol - Shwmae, Bore Da, Prynhawn Da , Noswaith Dda, Diolch yn Fawr a Hwyl Fawr mewn siop ac archfarchnad, swyddfa a banc, garej a ffatri, meddygfeydd a chanolfannau iechyd, canolfannau hamdden, caffis a thafarndai
“Newid y naws trwy gyfarch cwsmeriaid yn yr Iaith yn y lle cyntaf ac os yw plant ffoaduriaid Wcrain sydd wedi eu cartrefi yn Sir Fȏn wedi gallu dod i siarad yn rhugl yn y Gymraeg o fewn unarddeg wythnos ar newyddion S4C) yna yn sicr mae’n gwbwl bosibl perswadio trigolion tref ddwyieithog Aberystwyth i ddysgu chwech gair syml yn y Gymraeg”
“Fe allai’r cynllun fod daith newydd i’r Iaith Gymraeg trwy ddyblu a threblu y defnydd o’r Gymraeg a bod yn gyfrwng i normaleiddio Iaith trwy bontio diwylliannau gwahanol mewn tref sydd a chryn naws cosmopolitan yn perthyn iddi.
“Mae Aberystwyth yn un o drefi pwysicaf Cymru ac mae llygaid Cymru ar y dre a’r hyn sy’n digwydd yma.
“I’r cynllun lwyddo mae ennill cefnogaeth gweithwyr a chyflogwyr i ymrwymo yn frwdfrydig i’r ymgyrch a mae angenrheidiol i ddenu cefnogaeth gant y cant y cyrff cyhoeddus, mudiadau iaith a chymdeithasau Cymraeg a di-Gymraeg y fro, mudiadau gwirfoddol a phroffesiynol ynghyd â thrigolion gogledd Ceredigion ac ymwelwyr i’r dre.
“Byddai modd i gyflogwyr gefnogi staff am ddangos brwdfrydedd a chefnogaeth i’r cynllun.
“Mae’r Gymraeg wedi bod ac yn parhau yn rhan allweddol o gymeriad unigryw y dre ac mae gweithredu fel hyn yn rhoi cyfle i ni cyfle i ni droi y teid yn Aberystwyth o blaid llawer mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ym mywyd pob dydd y dre.
“Y nod yw atal y dirywiad ac i weld cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn ystod y degawd nesaf."