Mae ffilmio wedi dechrau ar Cleddau/The One That Got Away; cyfres ddrama newydd, chwe rhan, sy’n cyfuno dirgelwch llofruddiaeth afaelgar â stori garu drydanol.

Mae’r gyfres gan BlackLight Television (cwmni Banijay UK) mewn cydweithrediad â Banijay Rights, yn cael ei ffilmio yn Gymraeg ar gyfer S4C i’w darlledu ddiwedd 2024, tra bydd fersiwn Saesneg hefyd yn cael ei chynhyrchu ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Bydd y ddau yn cael eu dosbarthu'n fyd-eang gan Banijay Rights, rhan o gwmni rhyngwladol Banijay.

Wedi’i lleoli yn nhref arfordirol gorllewin Cymru, Doc Penfro, mae Cleddau/The One That Got Away yn dod â thîm o dalent drama droseddu Cymreig eithriadol at ei gilydd.

Ysgrifennwyd y gyfres gan Catherine Tregenna (The Bench, Law & Order UK, Lewis DCI Banks) gydag Elen Rhys (The Mallorca FilesCraith/Hidden), Richard Harrington (Y Gwyll/Hinterland) a Rhian Blythe (Y Golau/The Light in the Hall, Craith/Hidden) yn serennu.

Cyfarwyddir pob un o'r chwe phennod gan Sion Ifan (Y Gyfrinach/The Secret), a anwyd yn Sir Gâr.

Mae llofruddiaeth ysgytwol nyrs yn agor hen glwyfau mewn cymuned tref fach, gan daflu euogfarn hanesyddol i amheuaeth, codi’r posibilrwydd arswydus o lofrudd copycat ac aduno dau gyn-gariad sydd â’r dasg o ddod o hyd i’r llofrudd.

Gyda throeon di-ri yn arwain at ddiweddglo syfrdanol, mae Cleddau/The One That Got Away yn archwiliad fforensig o dref, llofrudd a pherthynas, ddoe a heddiw.

Dywedodd Catherine Treganna: “Dwi mor gyffrous i greu ac ysgrifennu fy nghyfres fy hun a’i rhannu gyda chynulleidfaoedd S4C gan mai dyna lle dechreuodd fy ngyrfa deledu. Mae’n fraint cael ysgrifennu yn y llais a’r acenion sy’n rhan o fy mhlentyndod a dod â’r hyn dwi wedi’i ddysgu dros 25 mlynedd o ysgrifennu thrillers trosedd ar waith.”

Dywedodd Comisiynydd Drama S4C, Gwenllian Gravelle: “Rydym yn falch iawn o gael gweithio ochr yn ochr â Banijay a Blacklight TV ar gyfres mor iasol. Ni allwn aros i'n gwylwyr wylio'r gyfres drosedd dynn, afaelgar hon nad yw byth yn colli momentwm. Gyda chast Cymreig cryf a lleoliad gwych, mae’n mynd i fod yn gyfres arbennig.”

Dywedodd Phil Trethowan a Ben Bickerton, Cynhyrchwyr Gweithredol BlackLight Television: “Rydym wrth ein bodd i fod yn gwneud Cleddau/The One That Got Away gydag S4C, Banijay Rights a Cymru Greadigol. Mae’n ffilm gyffro afaelgar a fydd yn cadw’r gynulleidfa i ddyfalu tan y diwedd, wedi’i chyflwyno gan dalent ysgrifennu, cyfarwyddo ac actio gorau Cymru.”

Meddai Simon Cox, EVP Cynnwys a Chaffaeliadau, Banijay Rights: “Yng nghanol arfordir prydferth gorllewin Cymru, mae stori drosedd grefftus wych Catherine Tregenna yn ychwanegiad gwych i gatalog Hawliau Banijay o ran y genre noir Cymreig. Rydym yn gyffrous am fod yn bartner gyda BlackLight ac S4C ar fersiynau dwyieithog Cleddau ac am fynd â’r ddrama afaelgar hon i gynulleidfaoedd ledled y byd.”