Mae dysgwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i roi tro ar gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, 40 mlynedd ar ôl i’r wobr gyntaf i ddysgwyr gael ei chyflwyno.

Shirley Flower o Glwyd oedd enillydd y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn gyntaf un, a gynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni ym 1983. Ers hynny, mae’r gystadleuaeth wedi’i chynnal 36 o weithiau, gyda sawl enw cyfarwydd ymhlith yr enillwyr.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun. Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.

Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ddydd Mercher, 9 Awst.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Joe Healy, o Wimbledon, Llundain, oedd enillydd y wobr yn 2022. Erbyn hyn mae Joe wedi dechrau gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg llawn amser yn y brifddinas, gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.