Wedi’r galw a’r galw am seddau i’r ddrama dros yr haf mi fydd Nôl i Nyth Cacwn i’w gweld ar DVD cyn y Nadolig.
Er i Nyth Cacwn brofi’n un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C ym 1989 ni chomisiynwyd ail gyfres.
Ond yn hytrach na syrthio gan bwyll bach i ebargofiant mae poblogrwydd y gyfres wedi tyfu a thyfu o ddegawd i ddegawd.
"Yn rhyfedd ddigon, plant a phobol ifenc yw dilynwyr selocaf Nyth Cacwn o’r wythdegau hyd y dydd hwn," medd Ifan Gruffydd, actor a chyd-awdur y gyfres.
"Ma’ hi pe bai’r ffarm fach deuluol hon wedi dod yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol cefn gwlad – yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth."
Daeth yr unig gyfres honno i ben â Delyth, merch Nyth Cacwn, yn bwrw-gered i fola-berfedd y nos yng nghwmni Wiliam, y gwas, gan adael sypreis ei pharti dyweddïo o’i hôl.
Ers hynny, mae cenedlaethau o ddilynwyr wedi crafu pen o ran y cwestiwn mawr: Beth ddigwyddodd wedyn?
Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dyma’r cwestiwn mae’r ddrama – o’r diwedd – yn ei ateb wrth i Wiliam fentro nôl i glôs Nyth Cacwn am y tro cyntaf ers y noson ddramatig honno.
Ffilmiwyd Nôl i Nyth Cacwn o flaen cynulleidfa fyw yn Theatr Felin-fach fis Hydref eleni.
"Ma’ llwyfannu’r ddrama wedi bod yn dipyn o brofiad," medd Ifan.
"Gyda gymaint o alw am docynnau, â’r fath ymateb i bob perfformiad, mae’n amlwg fod dal lle cynnes iawn i’r ffarm fach hon a’i chymeriadau yng nghalonnau gymaint o bobol.
"Gwych o beth oedd ffilmo’r perfformiad olaf yn Felin-fach - lond theatr o bobol ynghyd yng nghegin Nyth Cacwn yn cydymdeimlo, cyd-lawenhau a chyd-chwerthin yn iach."