HYFRYDWCH oedd cael tystio bod Eisteddfod Gadeiriol Chwilog, a gynhaliwyd ar 19 Ionawr, wedi denu llu o gystadleuwyr o bell ac agos, gyda’r safon yn uchel iawn.
Cafwyd cystadlu brwd am tros 12 awr a braf oedd gweld y neuadd yn orlawn yng nghyfarfod yr hwyr.
Mae’r pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgol leol ac Ysgol Uwchradd Botwnnog.
Cafwyd dysgwyr yn cystadlu eleni ar y parti canu a’r llefaru agored.
Derbyniwyd 17 ymgais ar gyfer cystadleuaeth y gadair, ar y testun “Gobaith” a’r bardd buddugol oedd Ffion Gwen Williams, Llanefydd sy’n athrawes Cymraeg a Drama yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.
Hon oedd ei phumed cadair.
Ymgeisiodd 12 yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc dan 19 oed a’r enillydd oedd Cai Fôn Davies, Bangor sy’n fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor.
Yn flynyddol cyflwynir tarian i’r cystadleuydd uchaf ei safon yn y cystadlaethau llenyddol sy’n gyfyngedig i’r ysgol leol a’r enillydd oedd Ffion Owen.
Cyflwynir Cwpan Goffa Anthony Pozzi Jones i’r gwaith arlunio mwyaf addawol ym marn y beirniad yn yr adran ieuenctid a’r enillydd oedd Ifan A Midwood, Morfa Nefyn.
Yn flynyddol, rhoddir cwpan a rhodd ariannol gan Manon a’r plant er cof am Dr Gwion Rhys i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yng nghyfarfod y prynhawn a’r enillydd oedd Ifan A Midwood, Morfa Nefyn.
Yn ogystal, yng nghyfarfod yr hwyr, rhoddir gwobr o £50 a chwpan a gyflwynwyd am y tro cyntaf eleni gan Bryn a’r teulu er cof am Dilys Jones, Eirianallt, Chwilog, i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yn yr oedran rhwng 15 a 25 a’r enillydd oedd Tegid Goodman Jones, Caerwys.
Darllenwch mwy am yr Eisteddfod yn Cambrian News yr wythnos hon, ar gael yn y siopau nawr