Dydd Gwener a Sadwrn 27 a 28 Hydref cynhelir Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, Ardaloedd Edeyrnion a Phenllyn. Dyma ddwy ardal gynhaliodd yr eisteddfod sawl gwaith yn eu tro ond, yn awr, daeth y ddwy at ei gilydd i drefnu Gŵyl ar y cŷd.
Lleolir Eisteddfod 2023 yn Y Bala oherwydd, yn anffodus, nid oes canolfan addas ar ôl yn Edeyrnion wedi dymchwel yr hen Bafiliwn fu’n gartref i gymaint o eisteddfodau a chyngherddau nodedig.
Yn ffodus mae canolfan hwylus yn Ysgol Godre’r Berwyn a Theatr Derek Williams. Yno felly y cynhelir yr eisteddfod ddiwedd Hydref.
Fu trefnu’r Eisteddfod hon ddim yn dasg hawdd o’r cychwyn. Gohiriwyd trefniadau am sawl blwyddyn oherwydd gwaith adeiladu a datblygu. Yna, yn union wedi cyfarfod cyntaf y Pwyllgor trefnu, daeth pandemig y Covid i ddrysu popeth. Gohiriwyd Eisteddfod 2021 hyd 2023.
Cydweithiodd pawb yn arbennig o dda ac effeithiol gyda mewnbwn teilwng o’r ddwy ardal. Lluniwyd Rhestr y Cystadlaethau, sicrhawyd beirniaid, telynorion a chyfeilyddion ac, erbyn hyn, mae’r holl waith llên a barddoniaeth gan gynnwys cynnyrch Y Gadair a’r Goron yn nwylo’r beirniaid.
Derbyniwyd nawdd a haelioni gan unigolion, cymdeithasau, sefydliadau, a chynghorau lleol i warantu bod yr ŵyl ar dir diogel yn ariannol.
Noddir cystadleuaeth Y Gadair yn gyfan gwbl gan Gwmni Awen Meirion ar achlysur dathlu 50 mlynedd eu bodolaeth fel llyfrwerthwyr llwyddiannus.
Iolo Puw, y crefftwr o’r Parc yw dylunydd a saer y Gadair. Mae o wedi llunio nifer o gadeiriau ac yn ymfalchïo fod record teilyngdod ei gadeiriau yn 100%! Gobeithir y pery hynny!
Noddir Coron yr Eisteddfod gan Gangen Meirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru a’r wobr ariannol gan Elfyn a Nansi Pritchard, Sarnau.
Mae UAC wedi bod yn gyson gefnogol i weithgareddau diwylliannol eu hardaloedd yn ogystal ag amaeth.
Dyluniwyd a lluniwyd y Goron gan y grefftwraig Mari Eluned, Mallwyd – hithau wedi llunio sawl coron eisteddfodol hardd.
Trefnwyd i gyflwyno ac arddangos Y Gadair a’r Goron a phrif dlysau’r Eisteddfod ar ddechrau noson Ymryson y Beirdd yn Neuadd Llandderfel nos Wener 6ed Hydref. Yna bydd timau’r beirdd yn ymrysona dan reolaeth y Meuryn, Tudur Dylan Jones.
Cynhelir Cyngerdd Cyflwyno’r Eisteddfod yng Nghapel Seion, Corwen nos Wener 22ain Medi yng nghwmni Côr Dyffryn Clwyd dan arweiniad Ceri Haf Roberts, enillydd Ruban Glas Eisteddfod Tregaron, a nifer o’u hartistiaid dawnus a phoblogaidd.
Eisteddfodau Taleithiol Môn a Phowys yw’r unig rai, ar wahân i’r Genedlaethol, sydd â’u Gorsedd Beirdd eu hunain.
Os caniatâ tywydd diwedd Hydref cynhelir seremoni agor yr orsedd am 9.30 fore Sadwrn ar Green y Bala a bydd Y Coroni nos Wener a’r Cadeirio bnawn Sadwrn yn seremonïau gorseddol.
Cynhelir dau gyfarfod eisteddfodol bob dydd yn dechrau am 12.30 a 6.00 o’r gloch.
Catrin Mara, un o brif actorion y gyfres deledu Rownd a Rownd yw Llywydd dydd Gwener. Magwyd Catrin yn Llanuwchllyn a hyfryd fydd cael ei chwmni ar ddiwrnod y plant a’r ieuenctid.
Yr Athro Gruffydd Aled Williams yw Llywydd dydd Sadwrn. Mae o â’i wreiddiau yn ardaloedd Dinmael a Glyndyfrdwy ac yn ysgolhaig, awdur ac arbenigwr ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a llenyddiaeth Cyfnod y Dadeni Dysg.
Mae’r llwyfan yn awr yn agored i dderbyn cystadleuwyr o bob oed, yn gantorion ac offerynwyr, yn llefarwyr, dawnswyr a dysgwyr, yn feirdd a llenorion, yn artistiaid a chrefftwyr gwaith llaw, yn gogyddion, cyfrifiadurwyr a threfnwyr blodau! Y gobaith yw cael Eisteddfod i’w chofio!