CYNHALIWYD Eisteddfod Flynyddol ar ddydd Sadwrn, 13 Chwefror.
Cafwyd eisteddfod lwyddiannus tu hwnt o 12yp at 12yh. Roedd y beirniad sef Gareth Wyn Thomas Brynaman (cerdd), Ivoreen Williams, Capel Hendre (llefaru), Gaenor Roberts, Llanymawddwy (cerdd dant ac alaw werin) yn cyfeirio yn aml at safon uchel y cystadlu. Roedd y beirniad lleol yn yr adran gwaith cartref yn rhannu yr un farn. Diolch i Tudur P Jones, y cyfeilydd medrus am ei oriau o waith caled trwy’r dydd. Llywydd y dydd oedd Nia Evans o Rhydymain, sef cyn brif-athrawes Ysgol Abergynolwyn gynt, a rhannodd atgofion o’i hamser yn yr Aber. Llwyddodd yr arweinyddion, Beth Lawton, Bryncrug; Edward Jones, Llanegryn; ac Elwyn Evans Abergynolwyn i drefnu prysurdeb y llwyfan yn ddi-drafferth drwy’r dydd. Roedd llwyddiant yr eisteddfod wedi plesio swyddogion y pwyllgor yn fawr iawn ac edrychant ymlaen at gael trefnu llawer i Eisteddfod eto yn y dyfodol, gyda brwdfrydedd gwerthwyr a chefnogwyr. Unawd Meithrin a Derbyn: Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair; Unawd Bl 2 ac Iau: Gwenllian Mair Breese, Pennal; Unawd 3 a 4: Iwan Sam Finigan; Unawd Bl 5 a 6: Huw Jarman, Abergynolwyn; Unawd Merched Bl 7-9: Lois Gwynedd, Glanrafon; Unawd Bechgyn Bl 7-9: Bedwyr Davies, Tal-y-llyn; Deuawd Bl 7-9: Beca a Gwenno Jarman, Llanuwchllyn; Unawd Piano Bl 9 ac Iau: Lwsi Roberts, Meifod.Unawd ar unrhyw offeryn heblaw Piano ac Offeryn Pres: Cadi Fflur, Glanrafon; Unawd offeryn Pres Bl 9 ac Iau: Heledd Owen, Ysgol Craig y Deryn; Unawd Alaw Werin Bl 6 ac Iau: Lwsi Roberts, Meifod; Unawd Alaw Werin Bl 7-9: Beca Jarman Llanuwchllyn; Unawd Cerdd Dant Bl 4 ac Iau: Lowri Jarman, Llanuwchllyn; Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6: Cadi Fflur Glanrafon; Unawd Cerdd Dant Bl 7-9: Beca Jarman Llanuwchllyn.Llefaru: Meithrin a Derbyn: Gwenlli Pennant Jones, Llanbrynmair; Llefaru Bl 2 ac Iau: Deio Pennant Jones, Llanbrynmair; Llefaru Bl 3 a 4: Lowri Jarman, Llanuwchllyn; Llefaru Bl 5 a 6: Osian Pennant Jones, Llanbrynmair; Llefaru Bl 7-9: Beca Jarman, Llanuwchllyn.Llenyddiaeth: Meithrin a Derbyn: Cyfartal: Aneira Jones a Molly Hodges Ysgol Craig y Deryn; Bl 1 a 2: Charlotte Hansford, Ysgol Craig y Deryn; Bl 3 a 4: Izzy Golder, Ysgol Craig y Deryn; Bl 5 a 6; Oli Waldock Ysgol Craig y Deryn; Bl 7, 8, a 9: Arwyn Jenkins, Ysgol Uwchradd Tywyn; Bl 10 a 11: Luned Hughes, Ysgol Botwnog.Gwaith Celf: Meithrin a Derbyn: Molly Hodges, Ysgol Craig y Deryn; Bl 1 a 2: Leila Jay Pierce, Ysgol Craig y Deryn; Bl 3 a 4: Sophie Greenwood, Ysgol Craig y Deryn; Bl 5 a 6: Amelia Burt, Ysgol Craig y Deryn; Blwyddyn 7, 8, a 9: Charlie Smith, Ysgol Uwchradd Tywyn; Bl 10 a 11: Katir Parsons Ysgol Uwchradd Tywyn.Tarian er Cof am Esyllt Bryniog Davies: Oli Waldock, Ysgol Craig y Deryn.Cyfarfod yr hwyr: Seindorf Arian: Seindorf Arian Abergynolwyn.Unawd dan 18 oed: Mared Jones, Dolgellau; Unawd dan 25 oed: Heledd Bessent, Pennal; Unawd Sioe Gerdd Dan 25 oed: Heledd Bessent, Pennal; Unawd Gymraeg: Aneira Evans, Aberhosan; Her Unawd: Ben Riddler, Llanfachreth.Cân Werin Agored: Heledd Bessent, Pennal.Canu Emyn dros 55 oed: Gwyn Jones Llanafan.Deuawd Agored: Hannah a Celyn Roberts, Porthmadog.Tlws Côr Cymysg Bro Dysynni i’r Cerddor Mwyaf Addawol o dan 25 oed: Dyfan Parry Jones Penegoes. Cerdd Dant: Unawd Cerdd Dant dan 18 oed: Mared Jones, Dolgellau.Llefaru: Prif Lefaru: Heledd Bessent, Pennal; Llefaru dan 25 oed: Heledd Bessent Pennal; Llefaru i Ddysgwyr: Nancy Clarke, Bryncrug; Limrig: Elwyn Davies, Dinbych; Telyneg: Ann Owen, Rhoscolyn, Ynys Môn; Englyn: John Ffrancon Griffiths, Abergele; Brawddeg: Aranwen Jarman, Llangwyryfon.