Mae Ysgol Llanilar yn dathlu ar ôl derbyn gwobr arian gan y Siarter Cymraeg – yr ysgol gyntaf i ennill y wobr yn ardal Aberystwyth.

Mae disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a holl ffrindiau Ysgol Gynradd Llanilar wedi gweithio’n arbennig o galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn gwreiddio gweledigaeth y Siarter Iaith ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith yr ysgol.

Mae’r Siarter Iaith yn ysgolion Cymru yn rhan bwysig o’r gwaith o wireddu nod Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn y flwyddyn 2050.

Rhoddwyd gweithgareddau ar waith yn Ysgol Llanilar ym mis Medi 2017.

Yn gyntaf, gwahoddwyd disgyblion i ymgeisio am swydd fel un o Gewri Cymreig yr ysgol.

Yn ogystal ag annog pawb arall yn yr ysgol i siarad Cymraeg, mae’r criw hwnnw’n gyfrifol hefyd am drefnu digwyddiadau sy’n dathlu Cymreictod ac am fod yn llais i’r disgyblion.

Yn sgil buddsoddi mewn uchelseinyddion, mae’r Cewri hefyd wedi bod wrthi’n cyflwyno caneuon y Sin Roc Gymraeg i’r disgyblion ac yn sefydlu gorsaf radio dymhorol. At hynny, mae’r Cewri wedi cyflwyno eu gwaith i’r gymuned, wedi cynnig gwersi Cymraeg i rieni ac wedi cefnogi digwyddiadau yn y pentref, fel canu carolau a mynychu taith gerdded er mwyn codi arian ar gyfer Eisteddfod 2020.

Dywedodd Rhiannon Salisbury, pennaeth dros dro yn Ysgol Llanilar: “Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd hynod o gyffrous.

Darllenwch yr stori yn llawn yn y Cambrian News wythnos yma