Ar 12 Ionawr croesawyd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cymru, i Feithrinfa Camau Bach, Aberystwyth.
Braf oedd ei dywys o gwmpas yn nhgwmni Gwenllian Lansdown Davies. prif weithredwr Mudiad Meithrin a Catrin Jones Williams, rheolwr Camau Bach a chael y cyfle i drafod gwaith Mudiad Meithrin a maes polisi gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Mr Miles: “Cefais bleser mawr o fynd o amgylch Meithrinfa Camau Bach, gweld ymroddiad a brwdfrydedd y staff a sut mae plant yn datblygu sgiliau Cymraeg mewn awyrgylch arbennig iawn.”
Mae Meithrinfa Camau Bach wedi ei lleoli yng nghanol tref Aberystwyth ac yn cynnig gofal rhwng 7.30yb tan 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener i blant o chwech wythnos oed hyd oed cychwyn ysgol.
Mae’r Feithrinfa yn rhedeg trwy gyfrwng y Gymraeg (yr unig un yn yr ardal) ac yn cynnig gwasanethau amrywiol gan gynnwys Y Cynnig Gofal Plant (hyd at 30 awr o ofal wedi’i ariannu), Addysg 3 oed, Dechrau’n Deg a Gofal cofleidiol gyda’r ysgolion lleol.
Rydym yn derbyn ceisiadau am lefydd newydd ar gyfer mis Ebrill, felly cyntaf i’r felin.
Am fanylion pellach, neu i drefnu amser i ymweld â’r feithrinfa, cysylltwch â ni ar 01970 639655 neu [email protected]
On 12 January we had the pleasure of welcoming Jeremy Miles, Minister for Education and Welsh Language for Wales to Meithrinfa Camau Bach Aberystwyth.
It was a great privilege to show Mr Miles around Camau Bach by Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin chief executive and Catrin Jones Williams, manager, and have the opportunity to talk about Mudiad Meithrin’s work and national policies within the Welsh medium childcare and play sector.
Mr Miles stated: “It was a great pleasure to visit Meithrinfa Camau Bach, to witness first-hand the staff’s enthusiasm and dedication, and see how children develop their Welsh language skills in a very special environment.”
Meithrinfa Camau Bach is located in Aberystwyth and provides childcare between 7.30am and 6pm Monday to Friday for children aged six weeks to preschool age.
Meithrinfa Camau Bach is a Welsh medium day nursery (the only one in the area) and offers a range of services including the Child Care Offer (up to 30 hours of funded childcare), 3 year old Education, Flying Start and Wraparound care with local schools.
Our books are currently open for new places to start in April, based on a first come, first served system.
For further details, or if you would like to visit the nursery, contact us on 01970 639655 or email [email protected]