BYDD holl gyffro ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2024 i’w weld ar hyd gwasanaethau S4C dros yr wythnosau nesa cyn i’r canlyniadau llawn gael eu cyhoeddi’n fyw mewn rhaglen arbennig dros nos ar Orffennaf 4ydd.

Bydd rhaglenni etholiad arbennig S4C yn dechrau nos Lun y 10fed o Fehefin am 8yh gyda Catrin Haf Jones yn dod â’r dadlau a’r dadansoddi am y pynciau mawr ar Y Byd yn ei Le.

Steffan Powell fydd yn arwain y drafodaeth gyda chynulleidfaoedd amrywiol ar Pawb a’i Farn ar gyfer tri rhifyn arbennig o’r gogledd, y de a’r canolbarth gan ddechrau ar nos Fercher y 12fed o Fehefin.

Bydd tîm Newyddion S4C yn teithio ar hyd a lled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ddyddiol gan ddod â’r holl newyddion am yr ymgyrchu.  Am y diweddaraf, cewch wylio Newyddion S4C bob noson o’r wythnos am 19:30 ac ar y bwletinau dros y penwythnos. Dilynwch y straeon mawr a’r dadansoddi am yr etholiad hefyd ar wefan Newyddion.S4C.Cymru ac ar eu holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol – Facebook, X, TikTok ac Instagram.

Ar noson yr etholiad, Bethan Rhys Roberts a Rhodri Llywelyn fydd yn cyflwyno rhaglen arbennig Etholiad 2024 fydd ar yr awyr am 21:55 Nos Iau y 4ydd o Orffennaf. Bydd modd gweld y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi, ymateb y gwleidyddion, a chlywed dadansoddi yr arbenigwyr gwleidyddol drwy gydol y noson hyd at oriau mân y bore.

Drannoeth y canlyniadau, ar ddydd Gwener y 5ed o Orffennaf,  bydd dwy raglen arbennig o Newyddion yn trin a thrafod goblygiadau’r canlyniadau - un am 12:00 gyda rhaglen estynedig am 7.30yh.

Bydd holl raglenni Etholiad 2024 ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. Neu os am ddilyn ar eich ffôn cofiwch am lif byw Newyddion S4C ar ei gwefan.

Dywedodd Bethan Rhys Roberts: "Does ‘na ddim byd cweit fel cyffro noson etholiad... dyfalu a dadansoddi’r canlyniadau, siom a dathlu’r pleidiau wrth i liwiau’r map gwleidyddol ddod yn glir.

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael cwmni sylwebwyr, gwleidyddion ac arbenigwyr wrth i’r ddrama fawr ddatblygu dros nos ac i drafod beth fydd effaith y cyfan ar ein bywyd bod dydd.

"Fe fydd ‘na sgwrsio a dadlau, herio a hwyl hefyd gobeithio wrth i ni ddilyn y canlyniadau trwy Gymru a thu hwnt." 

Dywedodd Rhodri Llywelyn: “Ar ôl cymaint o ddyfalu pryd fyddai’r etholiad, daeth y cyhoeddiad fel tipyn o syrpreis ac ma’r ymgyrch wedi dechrau ar ras gydag ymweliadau cynnar gan arweinwyr y prif bleidiau yn rhoi sylw amlwg i Gymru.

“Mae’r newid i etholaethau Cymru yn gwneud y canlyniad yn anoddach na’r arfer i’w ddarogan a dwi ffaelu aros i weld y map gwleidyddol newydd yn siapio unwaith i’r gorsafoedd pleidleisio gau.

“Bydd llwyth o westeion yn galw heibio dros nos am sgwrs, a’r cwestiwn pwysicaf i bob un fydd sut ma’r canlyniad a’r holl wleidydda yn debygol o effeithio ar fywydau pob dydd pobl Cymru a thu hwnt?”