Disgyblion Bl 5 a 6 Ysgol Crud y Werin, Aberdaron gyda’u athro Iolo Jones a Gruff Jones swyddog o Cadwch Cymru’n Daclus.

Yn ddiweddar bu’r plant yma’n brysur yn tacluso a chasglu sbwriel ar draeth Aberdaron.

Roedd yn rhan o weithgaredd ‘Arfordir Glân’ wedi ei drefnu gan Cadwch Cymru’n Daclus a daeth staff o Ganolfan Porth Y Swnt, Canolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron atynt, oedd ond yn rhy falch i helpu’r plant ac aeth y criw i’r Ganolfan i gychwyn i cael cyflwyniad gan Gruff cyn cychwyn ar y gwaith caled ar y traeth.

Casglwyd nifer helaeth o fagiau sbwriel ac er ei fod yn gwaith caled, gwnaeth y criw fwynhau a gwybod eu bod nhw yn gwneud gwahaniaeth i’w amgylchfyd ac yn bwysicach i’w pentref a’r traeth bach hwy eu hunain.