Cawsom brynhawn llawn cystadlu yn Ysgol Godre’r Berwyn dydd Sul 8 Fai yn Niwrnod chwaraeon Clybiau ffermwyr ifanc Meirionnydd.
Diolch i’r ysgol am gael defnyddio’r lleoliad. Diolch i Harri Guttridge am ddyfarnu’r Rygbi ac i Catrin Jones am ddyfarnu’r Hoci, ac i holl Swyddogion ac aelodau’r Sir am helpu mewn unrhyw ffordd.
Diolch i Nia Bont am y bwyd ar fan hufen ia, roeddem yn hynod lwcus o’r tywydd braf!
Diolch i’r holl aelodau am gystadlu, braf oedd gweld y cae yn llawn aelodau yn cystadlu a chymdeithasu! Llongyfarchiadau i Glwb Maesywaen am ddod i’r brig ar ddiwedd y dydd! Edrychwn ymlaen at weld yr aelodau yn cynrychioli’r Sir yn Aberystwyth ddiwedd Mis Mehefin.
Dewch i gefnogi Rali CFfI Meirionnydd 11 Fehefin ar Fferm Defaidty, Cwmtirmynach drwy garedigrwydd Alan a Mai Jones ar teulu, gyda Chlwb Cwmtirmynach yn gwesteio.
Dawns i ddilyn ar fferm Coed y Foel Uchaf, drwy garedigrwydd Robin a Catrin Roberts gyda Morgan Elwy a DJ Maj i ddechrau am 8yh.
Yna i orffen y penwythnos bydd cymanfa ganu ymlaen Dydd Sul 12 Fehefin am 5yh yng Nghapel Cwmtirmynach dan arweiniad Arfon Williams ac aelodau Cwmtirmynach.