Mae mam sydd wedi byw gyda cancr a bachgen wnaeth ennill medal aur yng Ngemau Ieuenctid Para’r Gymanwlad, ymhlith nifer sydd yn derbyn gwobr dathlu dewrder mewn seremoni fydd i’w gweld ar S4C.

Elin Fflur, Owain Tudur Jones a Lloyd Lewis sydd yn cyflwyno Dathlu Dewrder fydd ar S4C ar Ragfyr 29ain am 7.30yh.

Bydd deg enillydd yn derbyn gwobr mewn seremoni sydd yn dathlu ein harwyr tawel yma yng Nghymru.

Mae’r ddawnswraig broffesiynol o Strictly Come Dancing, Amy Dowden ymhlith y wynebau cyfarwydd sydd yn llongyfarch ein harwyr.

Mae Amy yn cwrdd â Hollie McFarlane sydd yn byw yn Wrecsam, ac fel Amy yn dod dros ei brwydr â cancr.

Medd Amy: “Mae cwrdd â Hollie y prynhawn ‘ma wedi bod yn wych, mae hi’n berson anhygoel, a galla’ i uniaethu â hi drwy ein bod yn rhannu’r un daith.”

Mae Hollie wedi ysgrifennu llyfr ar gyfer plant er mwyn helpu iddynt allu ymdopi â diagnosis cancr gan i Hollie ei hun ei ganfod yn anodd esbonio’r hyn roedd hi’n mynd drwyddo gyda’i merch, Sydney.

“Wnaeth bob dim newid dros nos.” Esbonia Hollie: “Y peth cyntaf wnes i feddwl oedd sut dwi am ddeud wrth Sydney. Mae o jyst yn rhywbeth mor anodd i esbonio i blentyn. O’n i ’rioed yn ofn marw, o’n i ofn gadal Sydney. Dyna be ’di’r ofn – cwffio, cwffio a dyna be wnes i.”

Mae Tomi Roberts-Jones o Gaerdydd yn un arall gafodd ei wobrwyo ar ôl iddo orchfygu nifer o rwystrau yn ei fywyd.

Cafodd Tomi strôc cyn cael ei eni a pan yn ddeg oed dechreuodd ddioddef o epilepsi, a derbyniodd lawdriniaeth ar ei ymennydd yn gynharach eleni.

Mis Awst enillodd fedal aur yng Ngemau Ieuenctid Para’r Gymanwlad yn Trinidad & Tobago mewn ras 100m y dynion.

Medd Tomi: “Do’n i ddim yn meddwl bydden i nol yn rhedeg blwyddyn hyn. Mae chwaraeon yn meddwl y byd i fi, os fydden i ddim yn gwneud chwaraeon sai’n gwbod beth fydden i’n gwneud.”

Medd Wendy, mam Tomi: “Smo fe wedi bod yn rhwydd o’r cychwyn – ond mae Tomi wedi neud mor dda. Mae chwaraeon wedi bod yn game changer i fywyd Tomi. Ni’n hynod browd o Tomi, cyrraedd llawn potensial sydd yn bwysig a’i fod e’n cael yr anogaeth i gyrraedd y brig.”

Medd y Para-Olympwraig Tanni Grey-Thompson am Tomi: “Mae Tomi mor benderfynol... yn ymladd yn ôl gyda pherfformiadau anhygoel, dyma pryd mae chwaraeon yn rhagori ar bopeth gan ddod â’r gorau mas o bobl.”

Noddir arlwy Nadolig S4C gan Cig Eidion Cymru

Dathlu Dewrder

Nos Wener, 29 Rhagfyr 19:30

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C