MAE Phil Gas a’r Band yn dathlu albwm newydd yng ngwyl Caeffest y penwythnos hyn.

Cafodd sengl cyntaf Phil Gas a’r Band, Seidar ar y Sul ei ryddhau yn mis Tachwedd 2017.

Poblogrwydd ysgubol y trac hwnnw oedd y sbardun i’r band parhau i ddatblygu deunydd newydd, a’i recordio.

Cafodd 10 o ganeuon ei ddethol ar gyfer y casgliad yma ac mae wyth ohonynt yn rhai gwreiddiol i’r band.

Fel byddai rhywun yn disgwyl, mae’r caneuon yma yn datblygu’r fformiwla gyfarwydd o ddathlu miri a ffraethineb.

Mae Ti ar fy meddwl a Mali a fi yn ffefrynnau yn berfformiadau byw’r band yn barod, yn egnïol ac yn wledd o harmonïau lleisiol y band cyfan.

Ond mae yna amrywiaeth mawr yn nhestunau’r caneuon eraill; caneuon sy’n trafod serch, pwysau bywyd ac iselder yn y termau mwyaf sensitif ag onest.

Gwelwn hefyd sawl cyfeiriad i’w cynefin, sef Dyffryn Nantlle.

Mae teitl y CD yn gyfeiriad slei i hwnnw ag i ddatblygiad sydyn y grwp. Efallai’r trac sy’n ymgorffori’r hoff elfennau yma yw Yncl John, John Watkin Jones, sy’n agor y casgliad.

Teyrnged gan Phil, i ffigwr adnabyddus iawn yn y gymuned. Eto, clywn gyfeiriadau diri i nodweddion lleol, ond mae’r themâu sy’n cael ei thrafod yn rhai fedrith pawb deall.

I lansio’r CD newydd bydd y Phil Gas a’r Band yn ymddangos yn #caeffest, sydd i’w chynnal ar gae pêl-droed Llanllyfni ar 15 Medi.

Bydd 10 o fandiau yn cymryd rhan ar draws y diwrnod, a pherfformiad Phil Gas a’r Band yn ei filltir sgwâr bydd uchafbwynt y diwrnod.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr