ENGLISH BELOW-------------Môr-ladron, ymladd ceiliogod, Ustus Heddwch meddw a diamynedd: roedd gan fywyd yn y ddeunawfed ganrif ei rialtwch a’i anturiaethau, ei sialensiau a’i ddathliadau, ac mae’r cyfan yn cael ei adlewyrchu yn ‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’, cynhyrchiad dwyieithog unigryw sydd ar daith drwy Gymru ym mis Ebrill - ac mae gan y Cambrian News bedwar pâr o docynnau i roi allan i ddarllenwyr lwcus.
Wedi bod yn destun adolygiadau gwych ac wedi llenwi sawl neuadd a theatr yn ystod y daith gyntaf, mae Cwmni Pendraw yn ail-deithio gyda chipolwg ar Gymru goll.
Ffynhonnell y cynhyrchiad yw dyddiadur William Bulkeley, Sgweier o Ynys Môn. Mae ei eiriau’n cael eu plethu ynghyd â golygfeydd dramatig, cerddoriaeth a dawns â’r cyfan yn cyfleu llais diledryw cefn gwlad Cymru dair canrif yn ôl. Mae yn y cynhyrchiad ddigon o droeon trwstan, y llon a’r lleddf fel ei bod yn debycach i opera sebon cyfoes!
Meddai Wyn Bowen Harries, sydd yn chwarae rhan y dyddiadurwr William Bulkeley, ac sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo’r cynhyrchiad:
“Pan ddarllenais ddyddiaduron y Sgweier o Fôn ces fy nharo gan y ddrama oedd ynddynt, ond hefyd sut yr oedd y dyddiaduron yn gofnod gwych o fywyd cefn gwlad a chyfnod sydd heb dderbyn llawer o sylw. O ganlyniad, mae hon yn sioe dipyn yn wahanol i’r arfer, gan fod Mr Bulkeley ei hun yn chwarae rhan amlwg ac yn siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa,”
Mae’r actorion teledu a theatr, Rhodri Siôn a Manon Wilkinson yn gredadwy wrth iddynt gyfleu pasiant o gymeriadau sy’n deillio o’r dyddiaduron. Mae’r cerddorion gwerin, Stephen Rees, Huw Roberts a Gwenno Roberts yn cyfrannu cerddoriaeth o’r cyfnod, a pheth ohono wedi ei gofnodi yn y dyddiaduron, gan gyfrannu haen arall o ddilysrwydd.
“Roedd yr ymateb i’n taith gyntaf yng ngogledd Cymru mor bositif, penderfynom gymryd y cynhyrchiad ar daith i dde a gorllewin Cymru ac ymweld â Llundain hyd yn oed!” meddai Wyn Bowen Harries.
Oherwydd natur ddwyieithog y cynhyrchiad, mae’n addas i ddysgwyr Cymraeg. Mae hefyd yn addas i gynulleidfa 11+.
Bydd y daith yn dechrau yn Neuadd Goffa yn Criccieth ar nos Fawrth, 12 Ebrill, cyn mynd i Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli ar nos Fercher, 13 Ebrill.
Wedyn, bydd perfformiad yn Theatr y Werin yn Aberystwyth ar nos Fawrth, 19 Ebrill a Theatr Mwldan yn Aberteifi ar nos Fercher, 20 Ebrill. Pob noson i ddechrau am 7.30yh.
----------------------------------------------------------------------------
Am gyfle i ennill pâr o docynnau, e-bostiwch: [email protected] gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn a pha leoliad y byddwch angen y tocynnau.
Dyddiad cau’r gystadleuaeth: dydd Iau, 24 Mawrth.
Telerau ac amodau arferol cystadleuaeth y Cambrian News yn berthnasol. Penderfyniad y Golygydd yn derfynol.--------------Pirates, cock-fighting, drunken judges; life in Eighteenth century Wales was riotous and adventurous, and had its highlights and challenges: all reflected in ‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’, a unique bilingual production touring Wales in April.Having received great reviews and filled halls and theatres during the first tour, Cwmni Pendraw are re-touring with their own perspective on the Wales of three centuries ago.The production is based on the diaries of William Bulkeley, an Anglesey squire. His own words are interspersed with dramatic scenes and music, portraying an authentic voice from rural Wales of a bygone age- though with twists and turns, crises and celebrations enough to resemble a modern soap opera!Script writer and producer Wyn Bowen Harries, who also plays diarist William Bulkeley said: “When I read the Anglesey squire’s diaries, I was struck by their inherent drama, but also how they provide a fantastic record of rural life in Wales in an overlooked period of our history. As a result, this show is a little different to what you might expect, as Mr Bulkeley himself is present, writing his diaries and speaking with the audience.”Welsh television and theatre actors, Rhodri Siôn and Manon Wilkinson are utterly believable as they move through a pageant of characters drawn from the diaries. Traditional folk musicians Stephen Rees, Huw Roberts and Gwenno Roberts bring music from the period, some of it recorded in the diaries, to life, adding another layer of authenticity to the production. “We received such a positive response from audiences during our first tour of north Wales, that we felt we could take the production further afield and are delighted to be adding dates in south and west Wales and even London to this tour,” added Wyn Bowen Harries.Due to the bilingual nature of the production, it should be suitable for Welsh learners. It is also suitable for an audience aged 11+.“I enjoyed the drama and music immensely, and learnt a great deal in the process.”“The music added greatly to the enjoyment. Congratulations to Stephen and the rest of the crew.” “At the beginning I was surprised to hear so much English in the drama, but by the end I wasn’t aware of which language I was hearing.”The show is in Neuadd Goffa (Memorial Hall), Criccieth on 12 April, Neuadd Dwyfor, Pwllheli on 13 Ebrill, Theatr y Werin, Aberystwyth, on 19 April and Theatr Mwldan, Aberteifi, on 20 Ebrill. All performances start at 7.30pm.----------------------------------------------------------------------------To be in with a chance of winning a pair of tickets, email [email protected] with your name, address, phone number and the theatre where you would like to see the show.Closing date: 24 March. Normal Cambrian News terms and conditions apply. The editor's decision is final.