Tywysydd gwadd Parêd Gwyl Dewi Llanbedr Pont Steffan, a fydd yn cael ei gynnal eleni ar 2 Mawrth, yw Mr Rob Phillips.
Yn frodor o Dreharris, Morgannwg, graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Llambed yn y 1990au ac ymunodd â staff y Llyfrgell Genedlaethol yn 2001.
Bellach ef yw Pennaeth yr Archif Wleidyddol Gymreig yno. Etholwyd ef i’r cyngor tref yn 1999 a bu’n faer ddwywaith, yn 2010-11 i ddechrau ac yna yn 2019-2020.
Mae Rob yn un o sylfaenwyr yr Ŵyl Gwrw sy’n cael ei chynnal ar gampws y Brifysgol bob blwyddyn, a gweithredodd fel prif stiward y Parêd ers ei dechrau yn 2018.
Mae’n aelod o Gôr meibion Cwmann, yn aelod gweithgar ac yn drysorydd Eglwys y Bedyddwyr Noddfa ac yn gyn aelod o Ford Gron Llambed. Erbyn hyn mae ef a’i deulu yn byw ym Mlaenfallen, Tal-sarn.
Wrth arwain y parêd, caiff gwmni Delyth ei wraig, a Tryfan a Rhodri, eu dau fab bach.
Bydd maer a maeres y dref, y Cynghorydd Rhys Bebb Jones a Shân ei wraig, hefyd yn gorymdeithio, ynghyd ȃ Ben Lake, ein haelod seneddol.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Hŷn Bro Pedr yn brydlon am 11 y bore.