BYDD cyfle i ymwelwyr â stondin S4C yn Eisteddfod yr Urdd eistedd yn un o gadeiriau eiconig Hyfforddwyr cyfres deledu boblogaidd Y Llais/The Voice.

Cafodd y gadair ei chludo i’r maes yn syth o stiwdio ITV ym Manceinion.

Bydd S4C yn darlledu Y Llais - fersiwn Gymraeg o gyfres The Voice yn 2025.

Gallwch wneud cais i gymryd rhan ar y gyfres ar wefan S4C www.s4c.cymru/yllais cyn y dyddiad cau sef 30 Mehefin 2024.

Y pedwar Hyfforddwr yn y gyfres fydd Syr Bryn Terfel, Aleighcia Scott, Yws Gwynedd a Bronwen Lewis, gyda seren BBC Radio 1 Sian Eleri yn cyflwyno.

Bydd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau wrth i gantorion talentog y genedl geisio creu argraff ar bedwar o artistiaid gorau Cymru.

Fe fydd y cystadleuwyr yn camu i’r llwyfan mewn ymgais i gael eu coroni yn enillydd y gyfres, gan sicrhau gwobr o gynllun mentora 12 mis o hyd sy’n cynnwys cyfle i berfformio ar raglenni S4C.

Bydd y gyfres yn cynnig adloniant llawn hwyl i'r teulu cyfan gyda’r cyfan ar gael i'w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Dywedodd un o’r Hyfforddwyr, y cerddor a’r cyflwynydd Bronwen Lewis: “Dwi wedi perfformio o flaen y cadeiriau coch, a nawr dwi’n cael eistedd mewn un.

“Mae’r sioe’n ddathliad o’r amrywiaeth o leisiau sydd mas ‘na.

“Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y wefan www.s4c.cymru/yllais.

"Dyma'r cyfle perffaith i wireddu eich breuddwyd, i berfformio ar S4C, ac i fod yn rhan o'r gyfres fwyaf cyffrous ar y teledu."

Bydd clyweliadau cychwynnol yn digwydd ar Orffennaf 12fed yng ngogledd Cymru ac ar Orffennaf 15fed yn ne Cymru.