Bydd Côr Cymry Gogledd America yn mentro ar daith o amgylch Cymru, ac yn perfformio mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad er mwyn dathlu penblwydd y côr yn 25 mlwydd oed.
Bydd y côr sydd â hanner cant o aelodau, sy’n cynnwys cantorion o dros 17 talaith yn America a thair talaith yng Nghanada, yn ymweld â Chymru rhwng 1-8 Gorffennaf, a hon fydd eu taith fwyaf o amgylch Cymru ers 2002.
Sefydlwyd y côr yn 1998 gan Mari Morgan yr arweinydd, sy’n hanu o Lanelli. Cyn Covid-19, roedd y côr yn cyfarfod yn flynyddol, ond newidiodd popeth adeg y pandemig.
Meddai Mari: ‘‘Roedd 2020 yn flwyddyn wahanol iawn i’r arfer i ni fel côr! Cyn hynny ro’n ni’n dod at ein gilydd unwaith y flwyddyn, ac unwaith y tymor ar lefel ranbarthol.
"Ond pan ddaeth Covid-19, ro’n i’n cyfarfod bron bob wythnos i ganu a chryfhau’r gymdeithas o fewn y côr.’’
Mae’r cantorion yn cynnwys disgynyddion i fewnfudwyr o Gymru, ac mae dros hanner y côr yn dysgu Cymraeg ers Medi 2020. Maen nhw’n cyfarfod bob wythnos ar-lein, ac yn dysgu am ddiwylliant a barddoniaeth Cymru, yn ogystal â dysgu Cymraeg llafar, gan gynnwys ynganu a phatrymau iaith sylfaenol, wedi eu seilio ar y cwrslyfrau sy wedi eu datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Lisa Hopkins yn byw yn Pennsylvania, ond mae ei theulu’n hanu o Gymru. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac mae hi bellach yn diwtor Dysgu Cymraeg.
Meddai: ‘‘Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn deall mwy am fy nhreftadaeth. Hefyd, mae gallu darllen Cymraeg yn rhoi mwy o ystyr i ganeuon ac emynau Cymraeg.
"Dw i wedi bod yn dysgu cwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr ers dwy flynedd.
"Mae’n braf gweld cariad y criw tuag at y Gymraeg.
"Mae gweld hyder y dysgwyr yn datblygu wrth siarad Cymraeg yn rhoi boddhad mawr i mi.’’
Mae Allison LaPointe, o St Paul, Minnesota, yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd. Mae hi’n edrych ymlaen at y daith, ac at ymweld â gogledd Cymru yn arbennig.
Meddai Allison: ‘‘Dw i’n gyffrous iawn bod y daith yn dechrau yng ngogledd Cymru, achos mae fy nheulu yn hanu oddi yno.
"Mi wnaeth fy hen daid symud i Utica, Efrog Newydd o’i gartref yn Nyffryn Ardudwy, gogledd Cymru. Dyma fy nhaith gyntaf i Gymru, felly mi fydd yn dipyn o brofiad.’’
Am fwy o wybodaeth am y daith, ewch i wefan y côr - corcymrygogleddamerica.com