Eleni, cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Llanbed ar ddydd Sadwrn y 1 Fawrth.

Fel yr arfer, bydd y Parêd yn dechrau am 11.00 o’r gloch o Ysgol Bro Pedr, Llanbed, yn ymlwybro drwy’r dref, ac yn gorffen ar gampws Prifysgol Llanbed.

Yno, bydd gweithgareddau i’r plant a chôrau lleol yn ein diddanu ynghyd â lluniaeth ysgafn i bawb. Croesawir pawb yn gynnes i’r digwyddiad, yn unigolion a theuluoedd, ysgolion, meithrinfeydd, cymdeithasau a chôrau. Anogwn bawb i wisgo gwisg Gymreig neu ddilledyn coch ac i ddod a baneri Cymru neu faner eich cymdeithas i ddathlu gŵyl ein nawddsant ar y dydd.

Kees Huysmans fydd yn arwain yr orymdaith. Yn frodor o’r Iseldiroedd, mae Kees wedi hen ymgartrefu yng Nghymru gan ddysgu Cymraeg a datblygu busnes llwyddiannus yn cynhyrchu waffls Tregroes.

Mae’n berson brwdfrydig dros y pethe, yn gyn-enillydd o’r Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond hefyd llawn mor gefnogol o eisteddfodau a digwyddiadau lleol.

Mae byd y gân yn bwysig iawn iddo, a mae’n aelod selog o Gôr Meibion Cwmann a’r cylch, a Chôr Pam Lai?