Cafwyd deuddydd heulog braf o haf i gynnal yr Eisteddfod eleni ar 4 a 5 Ebrill. Bu cystadlu brwd ar y nos Wener i blant a ieuenctid y plwyf. Gwelwyd cystadleuwyr o Geredigion ar y pnawn Sadwrn yn yr adran cynradd. Yn anffodus roedd y dyddiad yn cyd daro a Steddfodau ranbarthol yr Urdd Maldwyn ac Eryri.

Y beirniaid eleni oedd: Nos Wener (Lleol) : Cerdd – Lowri Elen, Llanbedr Pont Steffan. Llefaru: Alaw Mair Jones, Felin-fach. Dydd Sadwrn (Agored): Cerdd : Gareth Wyn Thomas, Rhydaman; Llefaru a Llên: Garry Owen, yr Hendy. Cyfeiliwyd gan Eirian Owen, Dolgellau.

Yr Arweinyddion oedd Rhian Cory a Gregory Vearey-Roberts (Dydd Gwener), Llifon Ellis, Manon Evans, Rhun Emlyn, Caryl Gruffydd Roberts a Sara Gibson (Dydd Sadwrn).

Llywydd nos Sadwrn oedd Cemlyn Davies, Caerdydd, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru fagwyd yn y pentref ac a arfera gystadlu – ac arwain yr Eisteddfod. Braf oedd cael ei groesawu nôl i’r pentref - diolch iddo am ei rodd hael.

Swyddogion y pwyllgor yw: Cadeirydd: Marianne Jones-Powell; Is-Gadeirydd: Sara Gibson; Ysgrifennydd : Ceris Gruffudd; Is-ysgrifennydd: Llio Adams; Trysoryddion: Eleri James ac Elin Haf Williams.

Cafwyd Eisteddfod gartrefol hwyliog gyda’r beirniaid yn pwysleisio pwysigrwydd parhau cynnal gweithgaredd o’r math,

Gellir gweld canlyniadau yr Eisteddfod ar wefanau Trefeurig a Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Enillwyr nos Wener 2025

Unawd (Dosbarth Derbyn) 1 Bella 2 Fflur 3 Myfi; Unawd (Blwyddyn 1-2) 1 Leisia 2 Osian 3 Ania; Unawd (Blwyddyn 3-4) 1 Siôn 2 Lleucu 3 Joshua; Unawd (Blwyddyn 5-6) 1 Ned 2 Iona 3 Poppy; Unawd alaw werin (cynradd) 1 Iona 2 Poppy 3 Lleucu; Unawd Offeryn Cerdd (cynradd) 1 Iona (Telyn) 2 Kai (Piano) 3 Siôn (cornet); Llefaru (Dosbarth Derbyn) 1 Bella 2 Myfi 3 Beau; Llefaru (Blwyddyn 1-2) 1 Ania 2 Leisia 3 Theo; Llefaru (Blwyddyn 3-4) 1 Math 2 Siôn 3 Lleucu; Llefaru (Blwyddyn 5-6) 1 Iona 2 Poppy 3 Anest; Parti Canu 1 Cyfnod Sylfaen 2 CA2; Parti Llefaru 1 CA2 2 Cyfnod Sylfaen; Sgen ti dalent 1 Iona 2 Anest 3 Ifan, Siôn a Henri; Tlws yr Ifanc (dan 25 oed): Robin Humphreys, Pistyll, Pwllheli

Penrhyncoch
Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch (Supplied)

Dydd Sadwrn

Unawd Dosbarth Derbyn ac Iau 1 Lowri Jenkins, Llandre; Llefaru Dosbarth Derbyn ac Iau 1 Casi Davies, Dinas Mawddwy; Unawd Blwyddyn 1 a 2 Leisia Davies, Cefn-llwyd; Llefaru Blwyddyn 1 a 2 Greta Mitchell, Capel Dewi; Unawd Blwyddyn 3 a 4, Gwenllian Cameron Jenkins, Pontrhydfendigaid;Llefaru Blwyddyn 3 a 4, Leisa Jenkins, Llandre; Unawd Blwyddyn 5 a 6, Nanw Grifiths-Jones, Cwrtnewydd; Llefaru Blwyddyn 5 a 6, Nanw Grifiths-Jones, Cwrtnewydd; Unawd Ysgol Uwchradd, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; Llefaru Ysgol Uwchradd, Moi Schiavone, Aberystwyth; Unawd Cerdd dant (Cynradd) Nanw Griffiths Jones, Cwrtnewydd; Unawd Cerdd dant (Uwchradd), Mirain Evans, Llandre; Unawd Alaw Werin (cynradd) (digyfeiliant), Nanw Griffiths Jones, Cwrtnewydd; Unawd Offeryn Cerdd (cynradd) Now Schiavone, Aberystwyth; Unawd Offeryn Cerdd (uwchradd), Elinor Nicholas, Aberystwyth; Canu Emyn dros 60 oed, Aled Jones, Comins-coch, Machynlleth;Darllen o’r ysgrythur, Lowri Emlyn, Penrhyn-coch; Deuawd emyn, Marianne Jones Powell Llandre a Glenys Jenkins, Tal-y-bont; Alaw Werin (Agored) Cydradd, Angharad Fychan, Penrhyn-coch; Parti canu, Parti Cwlwm, Aberystwyth; Côr, Côr Penrhyn-coch; Sgen Ti Dalent? Derek Adams, Penrhyn-coch; Her Adroddiad (Agored), Rhun Emlyn, Penrhyn-coch; Her Unawd – Hunan Ddewisiad, Efan Williams, Lledrod; Unawd Gymraeg, Efan Williams, Lledrod.

Cartref

Cadair: Lowri Emlyn, Penrhyn-coch; Englyn: Siw Hartson, Staines, Middlesex; Cân werin: Dyfan Phillips, Rhuthun; Cerdd i blentyn: Judith Morris, Penrhyn-coch; Limrig: Bethan Evans, Glynarthen; Brawddeg: Lynwen Evans, Llandre; Stori i blant: Anwen Pierce, Bow Street; Erthygl: John Meurig Edwards, Aberhonddu; Adolygiad: Lynwen Evans, Llandre; Tlws yr ifanc: Robin Humphreys, Pistyll, Pwllheli