Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa Talgarreg ar dydd Sadwrn 4 Fai yn neuadd y pentref.

Beirniaid, Llen a Llefaru Sara Down Roberts a Cerdd Sioned Page, Arlunio Lynda Thomas.

Cyfeilydd oedd Jonathan Morgan.

Llywydd y dydd oedd Brian Griffiths, Gwel y Cwm ac mae ei wreiddiau yn ddwfn yn Nghapel y Fadfa a diolch am ei rhodd haelionus .

Enillydd y gadair oedd Myfanwy Roberts Llanrwst a dyma’r ail flwyddyn iddi enill yn Nhalgarreg.

Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Mali Evans o Dalgarreg hon oedd yr un cyntaf iddi ennill.

Talgarreg
Mali Evans o Talgarreg a Myfanwy Roberts o Llanrwst (Supplied)

Enillwyr :

Unawd i ysgol feithrin, Rhun Davies, Talgarreg ; Unawd i blant ysgol Talgarreg a Capel y Fadfa dan 8 oed a thano, Neli Evans Talgarreg ; Parti Unsain dan 13 oed, Ysgol Talgarreg ; Unawd dan 6 oed, Ffion Llanybydder ; Unawd dan 8 oed, Bethan Llywelyn Llanybydder ; Unawd dan 10 oed, Efa Mary James; Unawd 10 a than 12 oed, Marged Dafis Talgarreg ; Unrhyw offeryn cerdd dan 12 oed, Neli Evans Talgarreg ; Deuawd Dan 12 oed, Neli a Non Talgarreg ; Unawd 12 a than 16 oed, Gwenni Edwards Mynachlog ddu ; Canu Emyn dan 12 oed, Elain Douch, Cwmann; Unawd cerdd dant dan 16 oed, Neli Evans Talgarreg ; Deuawd Agored, Delyth a Tryfan Phillips Talsarn ; Can Werin dan 18 oed, Marged Dafis Talgarreg ; Unawd allan o sioe gerdd Agored, Elen Francis Cas newydd bach ; Unrhyw offeryn cerdd Agored, Catrin Evans Talgarreg; Canu Emyn 12 i 18 oed, Gwenni Edwards Mynachlod; Canu Emyn dros 18 oed, Heledd Llwyd Talgarreg; Sgent ti dalent, Elen a Gwenni ; Dweud Joc, Isaac Rees Cross Inn; Stori Blwyddyn 2 ac iau, Ruth Kennedy 2 ail Spencer Parry Dafis 3ydd Ricky Harries ; Blwyddyn 3 a 4, Grug Rees; Blwyddyn 5 a 6, Marged Dafis ; Arlunio BL 2 ac iau, Lois Davies ; Bl 3 a 4, Non Thomas ; BL 5 a 6, Rhun Thomas; Creu Graffeg Cyfrifiadurol, BL 2 ac iau, Griffin Parry ; BL 3 a 4, Jac Humphries ; BL 5 a 6, Rhun Thomas ; Ysgol Feithrin, Arlunio, Dora ; Graffeg Gyfrifiadurol, Endaf Lloyd ; Cystadleuaeth Llwyfan mwyaf addawol dan 16 oed, Neli Evans Talgarreg.

Talgarreg
Rhun Davies a Neli Evans (Supplied)

Llefaru: Adrodd i blant Ysgol Feithrin, Rhun Dafis Talgarreg; Adrodd i blant ysgol Talgarreg; Adran ac Capel y Fadfa dan 8 oed, Non Thomas Talgarreg; Adrodd i blant ysgol Talgarreg, Adran ac Capel y Fadfa dan 13 oed, Martha Silvestri Jones Talgarreg; Parti Cydadrodd dan 13 oed, Parti Adran yr urdd Talgarreg; Adrodd dan 6 oed, Ffion Llanybydder; Adrodd dan 8 oed, Bethan Llewelyn Llanwnnen; Adrodd dan 10 oed, Grug Rees Talgarreg; Adrodd 10 a than 12 oed, Martha Silvestri Jones Talgarreg; Adrodd 12 a than 16 oed, Magw Thomas Llandysul; Adrodd unrhyw gerdd gan prifarddd a aned yng Nheredigion, Maria Evans Rhydargaeau; Her Adroddiad, Carol Davies Henllan; Adrodd Digri Magw Thomas Llan-dysul.

Llenyddiaeth

Cadair, Myfanwy Roberts Llanrwst; Tlws Yr Ifanc, Mali Evans Talgarreg; Ffurfio 5 Dihareb Newydd, Trefor Huw Jones Pontypridd; Englyn, Alan Iwi Didcot a Elen Prees Rhosllanerchrugog; Brawddeg, Carys Briddon Tre`rddol; Limrig, Elisabeth Page Blaenycoed