Yn dilyn noson lwyddiannus arall yng nghystadleuaeth Cneifio Cyflym Trawsfynydd, hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth. Yr oedd 5 dosbarth. Diolch yn fawr i'r beirniaid sef Glyn Cae Poeth, Gareth Cwm Cloch a Robin Llŷr Coed Y Foel. Dyma ganlyniadau'r noson:

'Juniors'

1. Gwion Rhys Gors

2. Goronwy Beudy Newydd

3. Ifan Bronaber

'Intermediate'

1. Goronwy Beudy Newydd

2. Derwyn Cae Glas

3. Ifan Bronaber

Ffermwyr Traws

1. Derwyn Cae Glas

2. Ifan Bronaber

3. Gwion Rhys Gors

'Veterans'

1. Derwyn Cae Glas

2. Alun Dolhaidd

3. Huw Tudor, Sir Fôn

'Agored'

1. Goronwy Beudy Newydd

2. Derwyn Cae Glas

3. Lewis Pentra, Llanelltyd

Roedd llond sied yno yn cefnogi a diolch i Rhodri Jarrett oedd ar y meicroffon yn creu awyrgylch hwyliog drwy gydol y noson. Diolch i deulu Goppa am gael cynnal y noson yno, i Nia Bont am ddarparu'r bwyd, i ffermwyr lleol am yr wyn i'w cneifio, i Gwilym James am fenthyg y toiledau, i Rhodri a Sarah Glanllafar am y goleuadau, i Prysor Service Station am y byrddau, i Garry Owen Hughes am yr offer sain ac i'r pwyllgor i gyd am eu gwaith caled.

Diolch i'r holl noddwyr canlynol :- Murphy & Co, Dave Jones training, Mrs G Williams & Son, J R Electrics, Cambrian Plant Sales, Cambrian Trailers, Owens Environmental, Garej Tyn Pistyll, FWAG, Moi Dafydd, C T Roberts Llanrwst, Cross Foxes Trawsfynydd, W H Evans, Rhys Humphreys, 92 Construction, Farming Connect, Mifeddygon Dolgellau, NFU, M Trac, Menai Tractors, Pickstocks, Gwynedd Windscreens,  Penrhyn Tool hire, Mona Tractors, FUW, A & M Lloyd, Seimon John, Mart Bryncir, Ifan Bronaber, Wil D. G Thomas, Bibbys, Wynnstay Dolgellau, John Roberts, Chwarel Braich Ddu, Q Williams, Gwyn Dolhendre, Oswyn Roberts, Gwynant Roberts, Ruthin Farmers, Bob Holmes, Oil4Wales, New Shop Bala, Tom James, Morgan Dolhaidd, Dylan Jarman, Dalton ATV, North West Quarry, North West Recycling, Prysor Service Station, Pedros, Farmers Marts Dolgellau, Kevin Williams a Saracens Bala. Bydd elw'r noson i gyd yn mynd tuag at Sioe Trawsfynydd.

Diolch yn fawr iawn i bawb.

Veterans
Veterans (N/a)
Agored
Agored (N/a)
Ffermwyr Traws
Ffermwyr Traws (N/a)
Intermediate
Intermediate (N/a)