THE latest community news from Y Ffôr.
Clwb yr Henoed
Y WRAIG wadd mewn cyfarfod Mawrth, 1 Tachwedd oedd Carol Bryn o Ffatri Jam, Y Ffôr. Croesawyd hi a’r aelodau gan y llywydd, Eluned Parry.
Gyda chymorth lluniau ar y cyfrifiadur, rhoddodd Carol dipyn o hanes y cwmni. Diddorol, oedd gweld y broses o gynhyrchu’r jam, chutneys ac ati a gweld wynebau cyfarwydd yr ardal a fu’n gweithio yno dros y blynyddoedd. Dywedodd Carys ei bod yn teithio i wahanol ardaloedd a gwledydd, gan gynnwys Japan, i hysbysu’r cynnyrch. Roedd hi wedi gwneud mince pies gyda’r ‘mincemeat’ a gynhyrchir yno i’r aelodau gyda darnau o gaws i flasu gyda’r gwahanol chutneys a jam. Diddorol oedd gweld cymaint o bethau a gynhyrchir yn y ffatri, ac roedd cyfle i’r aelodau eu prynu be dymunent ar y diwedd. Diolchwyd yn gynnes iddi gan Brenda Owen.
Gofalwyd am y baned i fynd gyda’r danteithion gan Euronwy Jones a Gwenda Owen. Rhoddwyd gwobr y raffl gan Lottie Thomas a’r enillydd oedd Gwenda Owen.
Bydd cyfarfod nesaf y clwb ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr gyda trip i Westy’r Fictoria, Porthaethwy i gael Cinio Nadolig. Rhagor o fanylion i ddilyn.
Oedfa
ARWEINIR y gwasanaeth yng Nghapel Ebeneser ddydd Sul, 13 Tachwedd am 11.15yb gan y gweinidog, y Parch R O Roberts.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]